Ffarwel fawredd ac esmwythder, Byd o wagedd 'rwyf yn byw, Gallu 'mhob rhyw gyfyngderau, Rhoi fy ngofal ar fy Nuw: Gwel'd yr Oen ar ben Calfaria, Cyfaill ffyddlon im' eriod; Aros mwyach yn ei gariad, Fy gelynion tan fy nhroed. [Nid wy'n ceisio fawr esmwythder, Ar y ddaear 'rwyf yn byw, Gallu 'mhob rhyw gyfyngderau, Rhoi fy ngofal ar fy Nuw: Gwel'd yr Oen ar ben Calfaria, Cyfaill ffyddlon im' eriod; Aros mwyach yn ei gariad, Fy gelynion tan fy nhroed.] 'Rwy' yma'n gruddfan tan y tonnau, Mewn cystuddiau lawer pryd, Brwydyr galed, a gelynion, Temtasiynau, cnawd, a byd; O ddyfnder moredd mawr yn edrych Tu ag entrych nefoedd fry; Gwela'i'r dyled wedi'i dalu, F'enaid, cân i'th Briod cu. Ym mhob 'stormydd mae addewid, Yn fy nghwrddid yn y byd; Ffyddlon Frawd ym mhob cyfyngder Yw f'Anwylyd im' o hyd: O'r pydew dwfn mae yn fy nghodi, Dan gyhoeddi hyn i ma's, Draw yn fore iddo ngharu, Cyn sylfaenu'r ddaear las. 'Nghanol myrdd o gyfyngderau, Mewn carcharau llawer pryd, Gwel'd fy Mhriod Iesu'n dyfod, Fy holl eilunod gwymp i gyd: A'i ddeheulaw fe'm cofleidia, Gwna im' gofio'r pryd a'r man Y priodais i f'Anwylyd; Nerth fy mywyd yw a'm rhan. Dangosodd i mi ol yr hoelion, Yn ei anwyl ddwylo a'i draed, Yr archoll ddofn tan ei galon, Ddaeth o honi ddw'r a gwaed. Wrth edrych ar ei fawrion glwyfau, 'Nghalon galed aeth yn friw; Mynych i mi mae'n llefaru, "Myfi heddyw yw dy Dduw."Morgan Rhys 1716-79 Golwg o Ben Nebo 1764 [Mesur: 8787D] |
Farewell greatness and ease, A world of emptiness I am living, In all kinds of affliction able to Put my cares on my God: See the Lamb on the summit of Calvary, A faithful friend to me always; Abiding evermore in his love, My enemies under my feet. [Nid wy'n ceisio fawr esmwythder, Ar y ddaear 'rwyf yn byw, Gallu 'mhob rhyw gyfyngderau, Rhoi fy ngofal ar fy Nuw: Gwel'd yr Oen ar ben Calfaria, Cyfaill ffyddlon im' eriod; Aros mwyach yn ei gariad, Fy gelynion tan fy nhroed.] I am here groaning under the waves, In afflictions many a time, A hard battle, with enemies, Temptations, flesh, and world; From the depths of great seas looking Towards the vault of heaven above; I can see the debt having been paid, My soul, sing to thy dear Spouse. In all storms there is a promise, Meeting me in the world; A faithful Friend in every strait Is my Beloved to me always: From the deep pit he is lifting me, While publishing this openly, Yonder in the morning, that he loves me Before the founding of the blue-green earth. In the midst of a myriad of straits, In prisons many a time, Seeing my Spouse Jesus coming, All my idol falling altogether: With his right hand he will enfold me, Make me remember the time and the place That I wed my Beloved; The strength of my life he is and my portion. He showed me the mark of the nails, In his dear hands and his feet, The deep wound under his heart, From which came water and blood. While looking on his great wounds, My hard heart broke; Often to me he is calling, "It is I today who am thy God."tr. 2015 Richard B Gillion |
|