Ffarwel bleserau darfodedig

Ffarwel bleserau darfodedig,
  Beth ond gofid yw'ch mwynhau?
Pan y byddwyf wannaf a thlottaf,
  Mynych gwelaf chwi yn ffoi:
Iesu yw'm trysor maith anfeidrol,
  Sy'n drag'wyddol yn parhau,
Yn diwallu ei anwyl eiddo,
  'Mhob rhyw gyfyngderau a thrai.

Rhyw gyssurwyr blin gofidus
  Ydyw'r cwbl īs y rhod,
Gwyn ei fyd a ga'i ar unwaith
  Bob rhyw eilun tan fy nhro'd.
Crist yw'r Pelican trugarog,
  Rho'i o'i galon werthfawr wa'd,
I iachau fy mawrion glwyfau,
  Dyma fy Iachawdwr rhad.

'Ngwaed ei galon mae fy mywyd,
  A fy rhydd-did bob yr awr;
Efe yw'm Cyfoeth a'm Diddanwch
  Yn y byd o gystudd mawr;
Ni cheisiaf mwy i drag'wyddoldeb,
  Y tu draw i'r byd a'r bedd,
Ddim i ymddigrifu yntho,
  Ond fy Mhriod, Brenin hedd.
Morgan Rhys 1716-79
Golwg o Ben Nebo, 1764.

[Mesur: 8787D]

Farewell vanishing pleasures,
  What but grief it is to enjoy you?
When I am weaker and poorer,
  I insist on seeing you flee:
Jesus is my vast, immeasurable treasure,
  Which is eternally enduring,
Satisfying his dear possession,
  In all kinds of straits and ebbing.

Some wearying, grievous comforters
  Is the whole under the sky,
Blessed if I get at once
  Every kind of idol under my foot,
Christ is the merciful Pelican,
  Giving from his heart precious blood,
To heal my great wounds,
  Here is my gracious Saviour.

The blood of his heart is my life,
  And my freedom every hour;
He is my Wealth and my Comfort
  In the world of great tribulation;
I shall seek no more for eternity,
  Beyond the world and the grave,
Anything to tale delight in,
  But my Spouse, the King of peace.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~