Fforddolion Seion, sy Yn teithio tua'r nef, Dyrchefwch gyda mi Ei enw gwerthfawr Ef, Nes ini ganu gyda'r llu Sy'n ddysglaer yn y nefoedd fry. Yn nes i'n cartref fry O ddydd i ddydd yr awn: Preswylwyr Seion sy Yn orfoleddus iawn; Ar ben eu taith, heb friw na phoen, Yn tawel orphwys gyda'r Oen. Drwy ras ein cadw wnaed Oddiwrth y byd a'i wae; Mae Satan dan ein traed, Boed i ni lawenhau; Ni gawn gyfarfod yn y ne' A'r hwn fu farw yn ein lle. Ein Brawd, ein Ceidwad cu, Ein oll yn oll yw ef; Rhai yn ei ganlyn sy', A'i gwelant yn y nef: Lle y bydd diwedd ar ein taith Dros eitha tragwyddoldeb maith.cyf. John Bryan 1776-1856 Tôn [666688] Alun (J A Lloyd 1815-74) |
Ye wayfarers of Zion, who are Travelling towards heaven, Exalt with me His precious name, Until we sing with the host Who are shining in the heavens above. Near to our home above From day to day we go: The residents of Zion who are Very jubilant; At their journey's end, without bruise or pain, Quietly resting with the Lamb. Through the grace keep us he did From the world and its woe; Satan is under our feet, Let there be rejoicing for us; We shall get to meet in heaven With him who died in our place. Our brother, our dear Saviour, Our all in all is he; Those following him are, Seeing him in heaven: Where the end of our journey shall be For an utmost, vast eternity.tr. 2017 Richard B Gillion |
?Charles Wesley 1707-88
|