Ffrydiau tawel byw rhedegog

(Llawnder yr iechydwriaeth)
Ffrydiau tawel, byw, rhedegog,
  O tàn riniog
      tŷ fy Nuw,
Sydd yn llanw ac yn llifo
  O fendithion o bob rhyw;
Dyfroedd gloyw fel y grisial
  I olchi'r euog, nerthu'r gwan,
Ac a gana'r
    Ethiop dua'
  Fel yr eira, yn y man.

O am yfed yma beunydd
  Ffrydiau'r iechydwriaeth fawr,
Nes fy nghwbl ddisychedu
  Am wiwedig bethau'r llawr:
Môr didrai o bob trugaredd
  Ydyw'r iechydwriaeth lawn,
Lanwod ac a lifodd allan
  Ar Galfaria un prydnawn.
Ann Griffiths 1776-1805

Tôn [8787D]: Hyfrydol (Rowland H Prichard 1811-87)

gwelir:
  O rhwyga'r tew gymylau duon
  Pechadur aflan yw fy enw
  Rhwyga'r tew gymylau duon

(The fulness of salvation)
Quiet, living, running streams,
  From under the threshold
      of my God's house,
Are flooding and flowing
  With blessings of every kind;
Bright waters like the crystal
  To wash the guilty, strengthen the weak,
And which will bleach the
    blackest Ethiopian
  Like the snow, soon.

O to drink here daily
  The stream of great salvation,
Until my thirst is completely quenched
  For the vacillating things of earth:
So unebbing of every mercy
  Is the full salvation,
That flooded and flowed out
  On Calvary one afternoon.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~