Ffydd ydyw'm sicr sail y daw Yr hyn wy'n ddisgwyl oddi draw; Fy nghadarn sicrwydd yw, a'm nôd, O'r peth nis gwelodd i neb erioed. Trwy ffydd ehedeg 'rwyf yn hy' I entrych awyr deneu fry, Ac yno'n gwel'd gogoniant llawn, Trwy sicrwydd anffaeledig iawn. Trwy ffydd, fy ngobaith, cadarn yw, Fe'i seiliwyd ar gyfiawnder Duw; Er maint yw llid a brâd y ddraig, Ni soddaf byth tra ar fath graig. Trwy ffydd, 'dwy'n cyfrif fy holl waith, Fy mhoen na'm dyledswyddau chwaith, Ond colled, ac fel tom y byd; Ar waed yr Oen 'rwy'n pwyso i gyd. Trwy ffydd 'rwy'n cadw deddf fy Nuw, Yn difa llygredd o bob rhyw; A'r fath yw'r rhinwedd sy'n fy ffydd, Mae'n puro 'nghalon nôs a dydd. Symmuda'm ffydd fynyddoedd im', O bechod ac euogrwydd llym; Fe'i tafl i eigion môr yn wir Y môr o waed a chariad pur.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: |
Faith is my sure foundation to come What I am expecting from yonder; My firm security it is, and my aim, The kind of thing no-one has ever seen. Through faith fly I shall boldly To the vault of the thin sky above, And there seeing full glory, Through very unfailing certainty. Through faith, my hope, firm it is, It was founded on the righteousness of God; Despite how great is the anger and treachery of the dragon, I shall never sink while on such a rock. Through faith, I do not count my whole work, My pain nor my duties either, But loss, and as the dung of the world; On the blood of the Lamb I am leaning altogether. Through faith I am keep my God's law, Eradicating corruption of every kind; And such is the merit that is in my faith, It is purifying my heart night and day. My faith will move mountains for me, Of sin and sharp guilt; It will fling it into an ocean sea truly The sea of blood and pure love.tr. 2016 Richard B Gillion |
|