Fry yn y Baradwysaidd wlad, Mewn tawel fan mae Tŷ fy Nhad; Ac yno mae fy Iesu gwiw, A brodyr anwyl i mi'n byw: Trigfanau lawer ynddo sy' Fe'u paratowyd gan Iesu cu. Mae pawb yn profi lawn fwynhad O hedd didrai yn Nhŷ fy Nhad. Fry yn Mharadwys, Fry yn Mharadwys. Sain cān a moliant peraidd sy', Yn adsain trwy holl furiau'r tŷ; 'Does yno neb yn teimlo poen, Ond pawb yn hyfryd foli'r Oen: Mae teulu oll mewn tawel hedd, Yn llon a siriol iawn eu gwedd. Mae cariad gwresog pur difrad, Yn mynwes pawb yn Nhŷ fy Nhad. Fry yn Mharadwys, Fry yn Mharadwys. 'Ddaw yno unrhyw nwyfus chwant, I flino calon 'run o'r plant; Ond delw Crist a'r Tad a fydd, I'w wel'd yn brydferth ar bob grudd, Mae hiraeth 'nawr o dan fy mron, Am fod yn mysg y teulu llon, Pa bryd caf ddod, O Iesu mad I fuw i hyfryd dŷ fy Nhad, Fry yn Mharadwys, Fry yn Mharadwys.Eleazar Roberts 1825-1912 Y Delyn Aur 1868 Tôn [MHD 8888D]: Tŷ fy Nhad (Y Delyn Aur 1868) |
Up in the Paradisiacal land, In a quiet place is my Father's House; And there are my worthy Jesus, And brothers dear to me living: Many dwellings are in it They were prepared by dear Jesus. Everyone is experiencing full enjoyment Of unebbing peace in my Father's House. Up in Paradise, Up in Paradise. The sweet sound of song and praise is Resounding through all the walls of the house; There is no-one there feeling pain, But all delightfully praising the Lamb: All the family are in quiet peace, Happy and very cheerful their countenance. There is love, warm, pure, loyal, In the breast of all in my Father's House. Up in Paradise, Up in Paradise. No lustful desires come there at all, To grieve the heart of any child; But the image of Christ and the Father shall be, Seen beautifully on every cheek, There is longing now beneath my breast, To be amongst the cheerful family, When can I come, O esteemed Jesus To live in my Father's delightul house, Up in Paradise, Up in Paradise?tr. 2015 Richard B Gillion |
|