Fy enaid, deffro! seinia gân O foliant i'th Waredwr glân; Fe haeddai glodydd mawr di frad, Ei garedigrwydd, O mor rhad! Fe'm gwelodd yn y cwymp ar goll, Fe'm carodd, er fy meiau oll; A chododd fi ar ddedwydd awr, - Ei garedigrwydd, O mor fawr! Er cael gwrthnebiad ar fy nhaith, Gan luoedd byd ac uffern faith, Fe'm daliodd yn y 'Storm a'r llif, - Ei garedigrwydd, O mor gryf! Yn nghanol trallod, poen a braw, Gelynion cyfrwys ar bob llaw, 'Fe'm cadwodd rhag dinystriol bla, - Ei garedigrwydd, O mor dda! Fy nghalon euog, parod yw I grwydro 'mhell odd'wrth fy Nuw; Ond er im' haeddu bythol wae, Ei garedigrwydd sy'n parhau! Yn ebrwydd 'madael wnaf â'r byd, Ei wagedd a'i bleserau gyd; Boed imi ganu'n ymyl bedd Ei garedigrwydd mawr a'i hedd. Ac yna 'hedaf fry trwy ffydd I ardal lon tragwyddol ddydd, A chanaf byth yn ngwydd fy Nêr Ei garedigrwydd uwch y sêr.Casgliad Joseph Harris 1824
Tonau [MH 8888]: |
My soul, awake! sound a song O praise to thy pure Deliverer; He deserves great, loyal praises, His kindness, O how free! He found me lost in the fall, He loved me, despite all my faults; And he raised me at the happy hour, - He kindness, O how great! Despite getting opposition on my journey, From hosts of the world and vast hell, He held me in the storm and the flood, - His kindness, O how strong! In the midst of trouble, pain and terror, Crafty enemies on every hand, He kept me from a destructive plague, - His kindness, O how good! My guilty heart, ready it is To wander far away from my God; But although I deserve everlasting woe, His kindness is enduring! Quickly leave, I shall, the world, Its emptiness and all its pleasures; May I sing at the side of the grave His great kindness and his peace. And then I shall fly above through faith To the cheerful region of eternal day, And I shall sing forever in the presence of my Lord His kindness above the stars.tr. 2016 Richard B Gillion |
|