Fy enaid, deffro'n fuan, Na hepian ar dy daith; Gwir seinia fawl i'r Iesu O bur nefolaidd iaith. Fy ysbryd, na fydd segur, Rho glod ar newydd gân I'r Gŵr a'th dynnodd allan Fel tewyn du o'r tân. Mae'n bryd i adar Babel I ganu, daeth y dydd; Y gadarn rwyd a dorrwyd A'r adar ddaeth yn rhydd. Daeth adre'r hen delynnau Fu'n segur ar y coed, I ganmol enw'r Iesu Mor felys ag erioed. Un awel o'r uchelder A ddaw â nefol hwyl I ganu gyda'n gilydd, Fel tyrfa'n cadw gŵyl, I'r annwyl Oen fu farw Yn ffyddlon ar y pren: Boed aur goronau filoedd Yn gorffwys ar Ei ben.Dafydd William 1720-94 Tôn [7676D]: Llangloffan (alaw Gymreig) |
My soul, awaken soon, Do not doze on thy journey; Truly sound praise to Jesus From a pure heavenly language. My spirit, do not be idle, Give praise in a new song To the Man who hast pulled thee out Like a brand from the fire. It is time for the birds of Babel To sing, the day has come; The strong net has been broken And the birds became free. The old harps came home Which were idle on the trees, To praise the name of Jesus As sweet as ever. One breeze from the heights Will bring heavenly cheer For us to sing with each other Like a throng keeping holiday, To the dear Lamb who died Faithfully on the tree: Let there be thousands of gold crowns Resting on His head.tr. 2009 Richard B Gillion |
|