Fy enaid na therfysga

(Ydwyf yr hwn Ydwyf - Ecsodus iii, 14.)
Fy enaid, na therfysga,
  Er cwrdd ag amal loes,
Yr un yw mawr ffyddlondeb
  Dy Dad o oes i oes;
Ei en ef yw Ydwyf
  'Rhwn Ydwyf, ar bob pryd,
Fe geidw'i eiriau gwerthfawr,
  Pe'n ulw'r elai'r byd.

"Cyfranwr bywyd Ydwyf
  I blant y gaethflud fawr,
Cynnaliwr gweiniaid Ydwyf,
  O'r dechreu hyd yn awr;
Yr Ydwyf mewn hyfrydwch
  Yn gwrando gweddi'r tlawd,
I'r truan a'r digymhorth
  Yr Ydwyf well nā brawd."

Er bod yn fyr o lawer
  O wych drysorau'r byd,
Trwy gael yr Iesu'n briod
  Caf fwy nā'n gwerth i gyd;
Sef cyfaill yn y tymmor
  Tymhestlog sydd o'm bla'n,
Diangfa rhag gwasgfeuon,
  A ffordd i'r Ganaan lān.
Casgliad o Hymnau (J Harris) 1824

Tonau [7676D]:
Culmstock (<1824)
Penrhyn (<1824)
Pentraeth (<1824)

(I Am who I Am - Exodus 3:14)
My soul, do not be in tumult,
  Despite meeting with many afflictions,
The same is the great faithfulness
  Of thy Father from age to age;
His name is I Am
  Who I Am, on every occasion,
He will keep his precious words,
  If the world should go to ashes.

"The distributor of life I Am
  To the children of the great captivity,
The help of the weak I Am,
  From the beginning until now;
The I Am in delight
  Listening to the prayer of the poor,
To the wretched and the helpless
  I Am better than a brother."

Although being short of many
  Of the brilliant treasures of the world,
Through getting Jesus as my own
  I will get more than all their worth;
That is a friend in the tempestuous
  Season that is before me,
An escape from tight places,
  And a road to the holy Canaan.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~