1,2,3,(4). Fy Iesu yw fy Nuw, Fy Mrawd a'm Prynwr yw, Ffyddlonaf gwir; Arwain fy enaid wnaeth O'r gwledydd tywyll caeth, I wlad o fêl a llaeth, Paradwys bur. Efe a aeth o'm blaen, Trwy ddyfnder dŵr a thân, I'r hyfryd wlad; Mae'n eiriol yno'n awr O flaen yr orsedd fawr, Yn maddau bach a mawr O'm beiau'n rhad. Mae lluoedd maith y nef Yn plygu iddo Ef, Anfeidrol Dduw; Canu telynau clir Mewn gŵyl dragwyddol bur, Am waredigaeth wir I ddynol-ryw. Pan delo'r saint yng nghyd, O derfyn eitha'r byd, I deyrnas nef; Cânt dreulio oesoedd fry, Heb fesur ac heb ri', I ganu am angeu du, Oddefodd Ef. - - - - - Fy Iesu yw fy Nuw, Fy Mrawd a'm Prynwr gwiw, Ffyddlonaf gwir; Fy enaid arwain wnaeth O'r gwledydd tywyll caeth, I wlad o fel a llaeth Paradwys bur. Mae lluoedd maith y nef Yn plygu iddo Ef, Fy Mhrynwr gwiw; Gan chware'u tanau clir, Mewn gwyl dragwyddol bur, Am waredigaeth wir, I ddynol ryw. Pan ddelo'r saint yn nghyd, O derfyn eitha'r byd, I'w cartref hwy; Cant dreulio bythol oes, Uwch gofid, cur, a loes, I ganu am angeu'r groes, Heb 'madael mwy.William Williams 1717-91
Tonau [664.6664]: |
My Jesus is my God, My Brother and my Redeemer he is, Most faithfully true; Lead my soul he did From the dark, captive lands, To a land of honey and milk, Pure paradise. He has gone before me, Through depths of water and fire, To the delightful land; He is interceding there now Before the great throne, Forgiving small and great Of my faults freely. The vast hosts of heaven are Bowing to Him, Infinite God; Playing clear harps In pure, eternal tune, About true deliverance For human-kind. When the saints come together, From the utmost ends of the world, To the kingdom of heaven; They will get to spend ages above, Without measure and without number, To sing about the black death, Which He suffered. - - - - - My Jesus is my God, My Brother and my worthy Redeemer, Most faithfully true; Lead my soul he did From the dark captive lands, To a land of honey and milk A pure paradise. The vast hosts of heave are Bowing unto him, My worthy Redeemer; While playing their clear strings, In a pure eternal festival, About true deliverance, For human kind. When the saints come together, From the utmost ends of the world, To their home; They shall get to spend an everlasting age, Above grief, pain, and anguish, To sings about the death of the cross, Without leaving any more.tr. 2016,23 Richard B Gillion |
|