Fy Iesu yw'r prophwyd goleu

(Crist yn Brophwyd ac Arweinydd ei Bobl)
Fy Iesu yw'r prophwyd goleu
  A ddaeth i lawr o'r ne',
I ddysgu pechaduriaid
  Oedd wedi colli'u lle;
A'u harwain o'r anialwch
  I wlad sy'n llawn ddigel,
O olew, gwin a gwenith,
  Yn llifo o laeth a mel.

Mae'n foreu sôn am danat,
  Y d'oi rhyw brophwyd mawr,
Rhagorach gynt na Moses,
  O uwchder nen i lawr:
Yn awr wyt wedi dyfod,
  Gad imi deimlo rhin
D'athrawiaeth sy'n felusach
  Na'r mêl a'r hyfryd win.

O dysg fy enaid gwirion
  I deithio'r anial dir,
Rhag myrdd o geimion lwybrau,
  I gadw ar y gwir;
Doethineb i'm cyf'rwyddo,
  Fel cawod fwyn o wlith,
Er maint sy' am fy rhwydo,
  Na chyfeiliernwyf byth.
William Williams 1717-91

[Mesur: 7676D]

gwelir: Mae moroedd o ddoethineb

(Christ as the Prophet and Guide of his People)
My Jesus is the prophet of light
  Who came down from heaven,
To teach sinners
  Who had lost their place;
And to lead them from the desert
  To a land which is fully unconcealed,
Of oil, wine and wheat,
  Flowing with milk and honey.

There is a morning to mention about,
  When some great prophet would come,
Superior to Moses of old,
  Down from the height of heaven:
Now thou hast come,
  Let me feel the merit
Of thy teaching which is sweeter
  Than the honey and the delightful wine.

O teach my foolish soul
  To travel the desert land,
From a myriad of false paths,
  To keep me on the true;
Wisdom to teach me,
  Like a gentle shower of dew,
Despite how much wants to ensnare me,
  That I never wander.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~