Fy llygaid arnat sydd

(Salm XXV - Rhan IV - Adn.15,16,20,21.
Ceisio cymmorth mewn trallod)
  Fy llygaid arnat sydd
  O Arglwydd Dduw, bob dydd,
O tyn fy nhraed ar frys heb ball,
  O rwyd y fall yn rhydd.

  Tro attaf, er fy mhla,
  Ac wrthyf trugarhâ;
Can's tlawd ac unig iawn wyf fi,
  'Does neb ond ti'm rhyddhâ.

  Fy achub gwna, O Dduw,
  Fy enaid cadw'n fyw;
Na'm gwaradwydder gan fy nghas,
  Dy ras fy ngobaith yw.

  Uniondeb fo i'm rhan,
  I'm cadw ym mhob man;
Can's wrthyt mwy, O Dduw fy mhlaid,
  Y disgwyl f'enaid gwan.
Casgliad o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1831

[Mesur: MB 6686]

gwelir:
    Rhan I - I fynu attat Arglwydd da
    Rhan II - Arglwydd cofia'th dosturiaethau
    Rhan III - Y'mhlith holl luoedd dynol ryw

(Psalm 25 - Part 3 - vv. 15,16,20,21.
Seeking help in trouble)
  My eyes are upon thee
  O Lord God, every day,
O draw my feet quickly without fail,
  From the net of the pestilence free.

  Turn to me, despite my plague,
  And upon me have mercy;
Since poor and very alone am I,
  There is no-one but thee will free me.

  Save me do, O God,
  My soul keep thou alive;
Do not let me be scorned by my enemy,
  Thy grace my hope is.

  Uprightness be to me a portion,
  To keep me in every place;
Since for thee henceforth, O God of my help
  Shall my weak soul wait.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~