Fy mhrofi 'rwyt O Arglwydd da Trwy orthrymderau'r byd a'i dda; Blinderau o fewn ac o'r tu ma's Sy'n d'od i brofi gwaith dy ras. Tydi sy'n roddi'n helaeth iawn, Ac yn dwyn ymaith y prydnhawn; Ond eilwaith rhoddi'n ddwbl gwnai I'r isel a'r crediniol rai. Wrth golli ennill 'rwyf o hyd, Wrth gwympo, codi er hyn i gyd; Wrth fyn'd yn dlawd cyfoethog wyf, Ryw'n derbyn iechyd dan bob clwyf. Bendithion gwerthfawr melus iawn Yn y blinderau chwerwa 'gawn; 'R hyn sy'n lladd cnawd a phecod cās Sy'n maethu cadwedigol ras. Pan bo hi'n myned arna'i'n drai Yn fwy amddifad gan bob rhai; Cael 'rwyf gyfeillach gwell pryd hyn, Cwmpeini melus Duw ei hun. O f'enaid glyna wrtho ef, 'Does noddfa arall dan y nef; Gwynt, gofid, gwagedd gwael i gyd, Yw'r cwbl welai yn y byd.John Hughes 1776-1843 Diferion y Cyssegr 1802
priodolwyd hefyd i [Mesur: MH 8888] |
Testing me thou art, O good Lord, Through the oppressions of the world and its good; Distresses within and without Which come to test the work of the grace. 'Tis thou who art giving very bountifully, And leading out the evening; But again giving doubly would make The low and the believing ones. While losing, winning I am still, While falling, rising dispite all this; While going poor, rich I am, I am receiving health under every wound. Very sweet, precious blessings In the bitterest distresses I may get; That which is killing flesh and hated sin Is nurturing saving grace. Whenever I become deprived More deserted by every one; I am getting better friendship then, The sweet company of God himself. O my soul, stick to him, There is no other refuge under heaven; Wind, grief, all the poor vanity, Is the whole that I see in the world.tr. 2017 Richard B Gillion |
|