Fy Mugail yw'r Arglwydd, ni bydd arnaf byth Nac eisiau, na phrinder; caf lawnder dilyth, Gwna ef i mi orwedd mewn gwelltog borfeydd; Gerllaw dyfroedd tawel y'm tywys bob dydd. Fe ddychwel fy enaid, fe'm harwain ar hyd Hardd lwybrau cyfiawnder tra b'wyf yn y byd: Er mwyn ei wir enw, IOR enwog, y gwna; Can's mae fy Nuw yn ffyddlon yn dirion a da. Dim niwed nid ofnwn, pe rhodiwn ar hyd Glyn dwfn cysgod angau, ni laesai fy mryd; Can's gyda mi 'r ydwyt a'th wialen a'th ffòn, Y rhai a'm cysurant, a'm cadwant yn llon. Daioni, trugaredd, dilynant fi'n glau Holl ddyddiau fy mywyd, gan hyfryd barhau: Yn nhŷ y JEHOFA preswyliaf fi byth, Mewn hedd a chadernid, heb newid fy nyth.John Hughes 1775-1854 Tôn [11.11.11.11]: Mallwyd (<1835) |
My Shepherd is the Lord, I will never have Either need, or scarcity; I will have endless fullness, He makes me lie in grassy pastures; Beside quiet waters he leads me every day. He returns my soul, he leads me along Beautiful paths of righteousness while I am in the world: For the sake of his true name, the renowned LORD, he does; For my God is faithful tender and good. No change would I fear, if I travelled along The deep shadowed vale of death, my heart would not droop; For with me thou art with thy rod and thy staff, Those which comfort me, and keep me cheerful. Goodness, mercy, they will follow me surely All the days of my life, enduring delightfully: In the house of JEHOVAH I will reside forever, In peace and security, without change of my nest.tr. 2009 Richard B Gillion |
|