Fy myfyrdodau'n felus sy Wrth gofi'r dorf sy'n moli fry; Pob un yn ddisglaer yn ei le 'N rhagori ar sêr yn entrych ne'. Fel y rhagora'r perlau drud Ar laid a sorod sy yn y byd; Mil mwy rhagoriaeth sy'n eu gwedd Na phan yn byw tu yma i'r bedd. Yr haul g'wilyddia maes o law Wrth wel'd y rhai'n y dydd a ddaw; Ymguddia'r lloer, ni 'mddengys mwy, Gan lewyrch eu disgleirdeb hwy. Mae yno heddyw rai yn iach R'odd ffàrwel in' dros ronyn bach; Yn ddistaw iawn diangasant hwy I'r Sabbath fry sy heb ddiwedd mwy. Gwaredwyd hwy o'r cystudd mawr, Eu gofid oll a ddarfu'n awr; Maent heddyw'n canu - canant byth, Heb sŵn pechadur yn eu plith.
Tonau [MH 8888]: |
My meditations are sweet While remembering the throng who are praising above; Every one shining in his place Outdoing the stars in the vault of heaven. As the costly pearls outdo The mire and dross which is in the world; A thousand times more excellence is in their appearance Than when living this side of the grave. The sun will be ashamed soon On seeing them on the coming day; The moon will hide, it will show itself no more, By the gleam of their radiance. There are there today some healthy Who bade farewell to us for a little while; Very quietly they escaped To the Sabbath above which is without any more end. They were delivered from the great tribulation, All their grief shall vanish now; They are today singing - they shall sing forever, Without the sound of a sinner among them. tr. 2017 Richard B Gillion |
|