Fy nghalon, cân mewn hwyl yn awr Ogoniant maith fy Mhrynwr mawr, Crist Iesu'r Arglwydd, Brenin nef: Mor hawddgar yw ei degwch Ef! Ei Dduw dywalltodd lawr o'r nen Olew gorfoledd ar ei ben; Bendithiodd ef ā'i Ysbryd gwiw, Ei gyn-Fab uwch holl feibion Duw. Ar bob daioni dan y rhod Ei oruwch ras sy'n dwyn y clod; Rhed cariad o'i wefusau'n llif, Bendithion rhyfedd yn ddirif. O Arglwydd, gwisg holl arfau'th rym, O'th gylch gwregysa'th gleddyf llym; Mewn mawredd marchog, ac mewn bri, Gwir ac addfwynder gyda thi. Byth saif dy orsedd, Arglwydd gwiw; Gras yn dy law,'th deyrnwialen yw; A chyfiawn yw dy ddeddfau i gyd, Fel Llywydd nef a llawr yn nghyd.1,2,5: Llyfr Tonau ac Emynau (Stephen & Jones) 1868 3,4 : Hymnau (Wesleyaidd) 1876
Tonau [MH 8888]: |
My heart, sing with joy now The extensive glory of my great Redeemer, Christ Jesus the Lord, King of heaven; How beautiful is His fairness! His God poured down from heaven The oil of gladness upon his head; He blessed him with his worthy Spirit, His first-born Son above all the sons of God. Over every goodness under the sky His superior grace leads the praise; Love runs from his lips as a flood, Wonderful blessings without number. O Lord, don all the weapons of thy strength, Around thee gird thy sharp sword; In greatness ride on, and in honour, Truth and meekness with thee. Thy throne is established forever, worthy Lord; Grace in thy hand, thy sceptre is; And righteous are all thy laws, As Governor of heaven and earth altogether.tr. 2008 Richard B Gillion |
|