Fy Nuw uwch law fy nëall
Fy Nuw uwchlaw fy neall

1,2,3;  1,4,(5).
(Doethineb a Daioni Duw)
Fy Nuw, uwchlaw fy nëall
  Yw gwaith dy ddwylaw ' gyd;
Rhyfeddod annherfynol
  Sy ynddynt oll ynghyd:
Wrth weled dy ddoethineb,
  Dy allu mawr, a'th fri,
Hyderaf am achubiaeth
  Yn hollol ynot ti.

Can's gallu canmil rhagor
  Sy gan fy Mhrynwr drud,
Na rhoddi yr haul i hongian
  Yn danllwyth uwch y byd;
Yspeilio uffern lydan,
  Dwyn arfau'r ddraig i bant,
A thori 'nghalon galed,
  Sy fel yr adamant.

Goleuni'r haul hanner-ddydd
  Nid yw ond tywyllwch du,
Wrth ei gymharuâ llewyrch
  Ei wyneb dysglaer cu:
Ei gariad yn y galon
  Yn rhoi llawenydd sydd,
Mil mwy, a gwerthfawrocach,
  Nag ydyw goleu'r dydd.

Fy enaid, gwêl fath noddfa
  Ddiysgog, gadarn yw,
Ym mhob rhyw gyfyngderau,
  Tragwyddol ras fy Nuw:
Ac yma boed fy nhrigfan,
  A fy nhawelaf nyth,
Yn nyfnder cyfyngderau,
  Sef tan ei aden byth.

Fe all i'r làn fy nghodi
  O ddyfnder llwch y byd,
A gwneud pob drwg a gwrddwyf
  Droi er daioni i gyd,
Rhoi olew o lawenydd
  Yn wastad ar fy mhen,
A'm dwyn trwy foroedd dyfnion
  I ganol nefoedd wen.
uwchlaw :: uwch law
ddwylaw ' gyd :: ddwylo_i gyd
Hyderaf :: Mi greda'
achubiaeth :: iachawdwriaeth
Fy enaid :: O! f'enaid
tan ei aden :: dàn Dy aden :: dan ei adain

William Williams 1717-91
Golwg ar Deyrnas Crist

Tonau [7676D]:
  Abermenai (John H Roberts 1848-1924)
Adela (J B Birkbeck)
Bremen (Neuvermehrtes Gesangbuch 1693)
Culmstock (<1829)
Endsleigh (alaw Italaidd)
Pearsall (St Gall Gesangbuch, 1863)
Ramah (J D Jones 1827-70)

gwelir: Fy enaid gwêl fath noddfa

(The Wisdom and Goodness of God)
My God, above my understanding
  Is all the work of thy hands;
An endless wonder
  Is in them altogether:
On seeing thy wisdom,
  Thy great ability, and thy honour,
I am confident for salvation
  Wholly in thee.

Since ability a hundred times more
  Is with my dear Redeemer,
Than set the sun hanging
  As a conflagration above the the world;
Spoiling wide hell,
  Taking the dragon's weapons away,
And breaking my hard heart,
  Which is like adamant.

The light of the sun of midday
  Is nothing but black darkness,
In comparison with the brightness
  Of his dear brilliant face:
His love in the heart
  Gives joy which is
A thousand times greater, and more valuable,
  Than is the light of day.

My soul, see what sort of firm,
  Unshakable refuge is,
In all kinds of strait,
  The eternal grace of my God:
And here let my residence be,
  And my quietest nest,
In the depth of straits,
  Namely under his wing forever.

He can lift me up
  From the depth of the dust of the world,
And make every evil that I meet
  All turn to good,
Put the old of joy
  Continually on my head,
To lead me through the deep seas
  To the centre of blessed heavens.
::
::
I am confident :: I believe
::
My soul :: O my soul
under his wing :: under Thy wing :: under his wing

tr. 2014 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~