Gad imi fyw o hyd I ti, fy Arglwydd mawr Heb roddi serch y nefol fyd, Ar bethau llwm y llawr. Gad imi beunydd fod Am bryd ar gynnydd Duw, Am dwyfol anian boed fy nod, A bod yn ysbryd byw. Na ad im ddod i fyd Ysbrydoedd perffaith lân, Yn afaf ac yn glais i gyd Heb ysbryd at y gân, Gad imi fyw yn awr Y bywyd bery'n un Am holaf ddydd ni bydd ond gwawr Fy nefol fyd fy hun.John Gwili Jenkins (Gwili) 1872-1936 Tôn [MBD 6686D]: Ystalfera (William George 1864-1920) |
Let me always live To thee, my great Lord, Without putting the affection of the heavenly world On the poor things of earth. Let me daily be Intent on the advancement of God, And that a divine nature be my aim, And be a living spirit. Do not let me come to a world Of perfect, holy spirits, Slowly and all bruised Without a spirit towards the song, Let me live now The life which continues the same For the last day to be but the dawn Of my own heavenly world.tr. 2014 Richard B Gillion |
|