Gad inni deimlo nefol Dad

(Dydd yr Arglwydd)
Gad inni deimlo, nefol Dad,
  Mai cariad yw Dy lwybrau;
A phrofi fod Dy ddeddfau glān
  Yn darian mewn blinderau.

Cwyd ein golygon ar Dy ddydd
  I Fynydd Dy sancteiddrwydd;
Hawddgaraf borth y nef i ni
  Yw Pabell gu yr Arglwydd.

Gad inni orffwys a mwynhau
  Hen drugareddau Seion;
Mae manna'r nefoedd yn parhau
  Yn Dy gynteddau tirion.

Gadawn ofalon byd yn awr
  I lawr wrth odre'r Mynydd;
Mae'r tir yn sanctaidd dros y ffin
  I enaid blin, aflonydd.

O! dyro heddyw golofn dān
  Dy Ysbryd Glān i'n harwain;
A thynned gras y llwythau 'nghyd
  I gysgod clyd Dy adain.

Goleued gwawr Dy wyneb Di
  Broffwydi Dy fagwyrydd;
A deffro'r byd i brofi blās
  Efengyl gras o newydd.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923

Mesur: MS 8787

(The Day of the Lord)
Let us feel, heavenly Father,
  That love is Thy paths;
And experience that Thy holy laws are
  A shield in afflictions.

Raise our visions on Thy day
  To the Mountain of Thy holiness;
The most beautiful sustenance of heaven to us
  Is the dear Tabernacle of the Lord.

Let us rest and enjoy
  The old mercies of Zion;
The manna of heaven endures
  In Thy tender courts.

Let us leave the cares of the world now
  Down at the foot of the Mountain;
The land is holy across the border
  For a weary, restless soul.

Oh, give today a column of the fire
  Of Thy Holy Spirit to lead us;
And may grace lead all the tribes
  To the cosy shelter of Thy wing.

May the dawn of Thy face illuminate
  The prophets of Thy walls;
And awaken the world to experience a taste
  Of the Gospel of grace anew.
tr. 2014 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~