[1] Galw 'rwyf arnat am dy fod Yn Dduw parod i wrando: Gostwng dy glust a chlyw yn rhodd Fy holl ymadrodd etto. [7] Cyfrana dy ddaionus rad, Ti, 'r hwn wyt geidwad ffyddlon, I'r rhai sy'n ymroi dan dy law, Rhag broch a braw y trawsion. [8] Cadw fi'n anwyl rhag eu twyll, Fel anwyl ganwyll llygad; Yn nghysgod dy adenydd di O cadw fi yn wastad. [15] Minnau mewn myfyr fel mewn hûn, A welaf lun d'wynebpryd: A phan ddihunwyf o'r hûn hon, Y byddaf ddigon hyfryd. O cadw :: O cuddia Minnau :: myfi - - - - - Galw 'rwyf arnat am dy fod Yn Dduw parod i wrando; Gostwng dy glust, a chlyw yn rhodd Fy holl ymadrodd eto. Myfi a ddeuaf at dy borth, I ddisgwyl cymmhorth ddigon, Sef dy drugaredd i lanhau Fy holl welïau budron. Pe llithrwn ddim, rhag maint yw'r llid, Fe dd'wedid fy ngorchfygu: A llawen fyddai fy holl gas; Dal fi o'th ras i fynu. Trugaredd, f'Arglwydd, heb ddim mwy, Yw'r cwbl 'rwy'n ei geisio; Trugaredd yw fy newis lwydd, Trugaredd, f'Arglwydd, dyro. Dod fesur mawr o'th ras yn rhwydd, O Arglwydd Dduw goruchaf; Dyddanwch i ni felly bydd, Yn y brawd-ddydd diweddaf.Edmund Prys 1544-1623
Tonau [MS 8787]: gwelir: Na thro dy ŵyneb Arglwydd glân Pa hyd fy Arglwydd Dduw dilyth? Rhaid imi gael pob gras pob dawn Trugaredd f'Arglwydd heb ddim mwy Tyrd Ysbryd Glân tragwyddol Dduw |
[1] Calling I am upon thee for thou art A God who is ready to listen: Incline thy ear and hear benificently My whole utterance again. [7] Share thy good favour, Thou, who art a faithful keeper, To those who linger under thy hand, Against the rage and terror of the oppressive. [8] Keep me dearly from their trickery, Like the dear candle of an eye; In the shelter of thy wings O keep me continuously. [15] As for me, in contemplation as in sleep, I will see the picture of thy countenance: And when I awake from this sleep, I will delighted enough. Oh, keep :: Oh, hide :: - - - - - Calling I am upon thee to be A God ready to listen; Incline thine ear, and hear as a gift All my report yet. 'Tis I who come to thy gate, To expect sufficient help, That is, thy mercy to cleanse All my filthy ulcers. If I should slip at all, how strong is the wrath, It would be said I was overcome: And cheerful would be all my foe; - Hold me up by thy grace. Mercy, my Lord, with nothing more, Is all I am seeking; Mercy is my successful choice, Mercy, my Lord, give. May a large measure of thy grace come freely, O Lord God most high; A comfort to us thus it will be, On the last judgment-day.tr. 2009,19 Richard B Gillion |
1 To just plea and sad complaint, attend, O righteous Lord, And to my pray'r, as 'tis unfeigned, a gracious ear afford. 7 The wonders of thy truth and love in my defence engage; Thou, whose right hand preserves thy saints from their oppressors' rage. 8 O! keep me in thy tend'rest care; thy shelt'ring wings stretch out, 9 To guard me safe from savage foes, that compass me about. 15 But I, in uprightness, thy face shall view without control; And, waking, shall its image find reflected in my soul. - - - - - 1 To just plea and sad complaint, attend, O righteous Lord, And to my pray'r, as 'tis unfeigned, a gracious ear afford.N Tate & N Brady A New Version of the Psalms of David in Metre 1696 |