Gogoniant fyddo i'th enw mawr Am ddod i brynu dyn, A disgyn o dy lys i lawr I'th wneyd â mi yn un. I anial pell y crwydrai'n traed Oddi wrthyt ti, O Dduw! Ond yn ein natur fe dy gaed Mewn agwedd gwas yn byw. Mewn cariad, Iesu, doist i lawr I'r byd o entrych ne'; Mewn cariad cwrddaist, do, â'r awr I farw yn fy lle. Mewn cariad gwisgaist goron ddrain, Y fantell goch, a'r cur; Mewn cariad cym'raist bigau main Y llymion hoelion dur. Daeth prynedigaeth gyda'th waed A lifodd ar y pren; Gorphenaist iachawdwriaeth râd; Agoraist ddrws y nen.David Morris 1744-91
Tonau [MC 8686]: |
Glory be to thy great name For coming to redeem man, And descend from thy court down To make thee and me as one. To a distant desert our feet wandered Away from thee, O God! But in our nature thou wast found In the attitude of a servant living. In love, Jesus, thou camest down To the world from the vault of heaven; In love thou didst meet, yes, with the hour To die in my place. In love thou didst wear a crown of thorns, The red robe, and the beating; In love thou didst receive the fine points Of the sharp steel nails. Redemption came with thy blood Which flowed upon the tree; Thou didst finish free salvation; Thou didst open the door of the sky.tr. 2023 Richard B Gillion |
|