Golchwyd Magdalen yn ddisglair A Manasse ddu yn wyn, Yn y ffynnon ddaeth o galon Iesu ar Galfaria fryn: Pwy a ŵyr na olchir finnau? Pwy a ŵyr na byddaf byw? Ffynnon rasol pen Calfaria, Llawn o rinwedd dwyfol yw. Gwneir, fe wneir, fe'm golchir innau; Gwn, mi wn y byddaf byw; Ffynnon waedlyd pen Calfaria Ylch fy meiau dua'u lliw: Do, fe olchwyd Saul o Darsus, Yn y ffynnon daeth yn wyn; Golchir finnau, ddyn truenus, Molaf Iesu byth am hyn. Diolch byth am drefn y cadw, Diolch byth am farw'r groes, Diolch byth am bara i alw Ar fy ôl ar hyd fy oes: Yn y gwaes mae'r haeddiant dwyfol Yn y gwaed mae 'mywyd i - Bywyd f'enaid yn dragwyddol - Diolch byth am Galfari. - - - - - Golchwyd Magdalen yn ddysglaer, A Manasse'n hyfryd wỳn, Yn y dwfr a'r gwaed a lifodd Maes o'i ystlys ar y bryn: Pwy a ŵyr na olchir finau? Pwy a ŵyr na byddaf byw? Mae rhyw drysor anchwiliadwy O drugaredd yn fy Nuw. Maes o'i ystlys :: O ystlys Iesu drugaredd yn fy :: râs yn nghadw gyda'm William Morris (Gwilym Ddu o Fôn) 1705-63
Tonau [8787D]: gwelir: Draw ar gopa bryn Golgotha |
Magdalen was washed bright And black Manasseh white, In the fount that came from the heart Of Jesus on the hill of Calvary: Who knows that I too am not to be washed? Who knows that I will not live? The gracious fount of the head of Calvary, Is full of divine virtue. To be done, to be done, I too am to be washed; I know, I know I shall live; The bloody fountain of the head of Calvary Shall wash my sins of blackest colour: Yes, Saul of Tarsus was washed, In the fount he became white; I too am to be washed, a wretched man, I shall praise Jesus forever for this. Thanks forever for the arrangement of the keeping, Thanks forever for the death of the cross, Thanks forever for continuing to call After me all through my life: In the blood is the divine merit In the blood is my life - The life of my soul eternally - Thanks forever for Calvary. - - - - - Magdalen was washed bright, And Manasseh beautifully white, In the water and the blood which flowed Out of his side on the hill: Who knows that I too am not to be washed? Who knows that I will not live? There is some unsearchable treasure Of mercy in my God. Out of his side :: From the side of Jesus mercy in my :: grace keeping with my tr. 2010,11 Richard B Gillion |
|