Gwaed y Groes sy'n lladd gelyniaeth, Gwaed y Groes sy'n cyfiawnhau; Ac er maint fy llygredigaeth, Gwaed y Groes sydd yn glanhau; Daw i'r aflan A sancteiddrwydd Duw Ei Hun. Gwaed y Groes sydd imi'n fywyd Yn yr anial mwyaf crin; Gwaed y Groes adfywia f'ysbryd Yn y gwres a'r deifiol hin; Yn ei rinwedd Āf ymlaen o nerth i nerth. Gwaed y Groes sydd yn diffoddi Tanllyd fellt Cyfiawnder llym; Gwaed y Groes sydd yn distewi Y taranau mwya'u grym; Mae tangnefedd Fel y nef ar Seina mwy. Gwaed y Groes yw'm hunig obaith Gweld yr Iesu "fel y mae"; Dyma lif tragwyddol berffaith Rhyngof a thragwyddol wae: Dafn o hono Ddiffydd dān trueni byth.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: 878747] |
The blood of the cross is killing enmity, The blood of the cross is justifying; And despite the extent of my corruption, The blood of the cross is cleansing; To the unclean it shall bring The sanctification of God himself. The blood of the cross is to me life In the most arid desert; The blood of the cross revives my spirit In the heat and the searing climate; In his merit I shall go on from strength to strength. The blood of the cross is extinguishing The fiery lightning of sharp righteousness; The blood of the cross i quietening The thunders of greatest force; There is peace Like heaven on Sinai evermore. The blood of the cross is my only hope Of seeing Jesus "as he is"; Here is a perfect eternal stream Between me and eternal woe: A drop of this Shall extinguish the fire of a wretch forever.tr. 2020 Richard B Gillion |
|