Gwrando nghwyn Dywysog/Tywysog heddwch

(Eiddigedd)
Gwrando nghwyn Tywysog heddwch,
  Mae eiddigedd ynnwi'n llawn;
Ofni nad wyt yn fy ngharu,
  Ngharu, yn ffyddlon ac yn iawn;
Nid oes un rhyw feddyginiaeth,
  Rhagddo bellach all iachau,
Ond cael gweled gwedd dy wyneb,
  A chael hefyd dy fwynhau.

Pan y b'ech yn cuddio d'wyneb,
  Y mae ofnau o bob gradd,
O tu mewn ac o tu allan,
  Gyd a eu gilydd bron fy lladd;
Gwasgu ar fy enaid gwirion,
  Ffaelu symmud troed o'r man;
Diau derfydd fyth am danaf
  Oni chodi di fi i'r lan. 

Mae rhyw foroedd o drugaredd,
  Arglwydd ynnot ti dy hun,
Anherfynol a thragwyddol
  Yw dy gariad at y dyn?
Mewn cyfyngder buost fyddlon,
  Yno rho'ist dy nerth i ma's,
Yn y dyfnder mawr 'rwyf finnau,
  Nawr yn llefain am dy ras.

Wrth y beddrod 'rwyf yn gwaeddi,
  Mae'n agored immi nawr,
Nid oes im' ond rhai munudau,
  Cyn rhaid gorwedd yno lawr:
Nid oes arnaf ofn angeu,
  Os ti sefi wrth fy nghlyn,
Fe fu'r bedd a'i ddychryniadau
  Gynt yn wely i ti dy hun.

Derfydd i mi garu ac ofni,
  Dim o'r nefoedd fawr i'r byd,
Pan y caffwi'r olwg gyntaf,
  Decced yw dy wynebpryd;
Gwedd dy wyneb sy'n dwyn bywyd,
  Gwedd dy wyneb sy'n dwyn hedd,
Gwedd dy wyneb ydyw'r cwbl
  Yma a thu draw i'r bedd.

            - - - - -

Gwrando 'nghwyn, Dywysog heddwch,
  Mae eiddigedd ynwy'n llawn;
Ofni nad wyt yn fy ngharu,
  Unrhyw bryd yn gynes iawn;
Nid oes unrhyw feddyginiaeth,
  'Nawr a ddichon fy iachau,
Ond cael gweled gwedd dy wyneb,
  A chael hefyd dy fwynhau.

Pan yr wyt yn cuddio'th wyneb,
  Y mae ofnau o bob gradd;
Oddimewn ac oddiallan,
  Gyda'u gilydd bron fy lladd;
Gwasgant ar fy enaid eiddil
  Nes wy'n methu symud cam;
Diau derfydd fyth am danaf,
  Oni chodi di fi'r làn.

Mae rhyw foroedd o drugaredd,
  Arglwydd ynot ti dy hun;
Anchwiliadwy, a thrag'wyddol,
  Yw dy gariad at y dyn;
Mewn cyfyngder buost fyddlon,
  Yno rho'ist dy nerth i ma's,
Yn y dyfnder mawr 'rwyf finau,
  'Nawr yn llefain am dy ras.
William Williams 1717-91
Mor o Wydr 1773

Tonau [8787D]:
Bohemia (Darmstädter Gesangbuch 1698)
Dusseldorf (Felix Mendelssohn 1809-47)
Eifionydd (J A Lloyd 1815-74)
Innocence (Ellis Edwards 1844-1915)

gwelir:
  Dyn dyeithr ydwyf yma
  Mae rhyw foroedd o drugaredd

(Jealousy)
Listen to my complaint, O Prince of peace,
  There is jealously fully in me;
Fear that thou dost not love me,
  Love me, faithfully and rightly;
There is no treatment,
  From now on that may heal,
But getting to see the sight of thy face,
  And getting also to enjoy thee.

Whenever thou dost hide thy face,
  There are fears of every degree,
From within and from without,
  Together almost killing me;
Pressing upon my simple soul,
  Failing to move a foot from the place;
Doubtless I shall perish forever
  Unless you raise me up.

There are some seas of mercy,
  Lord, in thee thyself,
Boundless and eternal
  Is thy love to the man?
In straits thou wast faithful,
  There thou didst give out thy strength,
In the great depth there too am I,
  Now crying out for thy grace.

By the tomb I am shouting,
  It is open to me now,
There are only minutes for me,
  Before I must lie down there:
There is no fear of death upon me,
  If thou wilt stand by my side,
The grace and its terrors were
  Once a bed for thee thyself.

Loving and fearing for me shall cease,
  Nothing from great heaven to the world,
When I get the first sight,
  Of how fair is thy countenance;
The sight of thy face brings life,
  The sight of thy face brings peace,
The sight of the face is the whole
  Here and beyond the grave.

                 - - - - -

Listen to my complaint, O Prince of peace,
  There is jealousy fully in me;
Fearing that thou dost not love me,
  At any time very warmly;
There is no treatment,
  Now that may heal me,
But getting to see the sight of thy face,
  And getting also to enjoy thee.

When thou art hiding thy face,
  There are fears of every degree;
From within and from without,
  Together almost killing me;
They press upon my feeble soul
  Until I am failing to mover a step;
Doubtless I shall perish forever,
  Unless thou raise me up.

There are some seas of mercy,
  Lord, in thee thyself;
Unsearchable, and eternal,
  Is thy love to the man;
In straits thou wast faithful,
  There thou didst give out thy strength,
In the great depth am I too,
  Now crying out for thy grace.
tr. 2024 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~