Gwyn fyd y rhai mae'r Arglwydd Iôr

("Gwyn eu byd y bobl y mae'r Arglwydd
yn Dduw iddynt." - Salm cxliv. 15.)
Gwyn fyd y rhai mae'r Arglwydd Iôr
  Yn Dduw, yn drysor iddynt, -
Gofala byth mewn cariad llawn
  Yn dyner iawn am danynt.

Yn Hollalluog ydyw ef,
  Mawr Lywydd nef a daear;
Nid all un grym fod iddo'n groes, -
  Ni fu, nid oes ei gymmar.

Lle byddo'i wên pob braw a ffŷ,
  A'r cyfan dry'n dawelwch;
Ef, mae'n gywir wir di wad,
  Yw unig Dad dedwyddwch.

Gwyn fyd y rhai, mewn cyflwr cu,
  Mae Duw'n teyrnasu arnynt:
Mawr chwantu'r wyf, y nefol Gun,
  Cael bod yn un o honynt.

Fy myd yn hyfryd yma gaf, -
  Yn angau byddaf ddiogel, -
Caf yn y nefoedd ddedwydd dda
  Dros byth orphwysfa dawel.
Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846

[Mesur: MS 8787]

("Blessed are the people whose
God is the Lord." - Psalm 144:15)
Blessed are those to whom the Sovereign
  Lord is God, is a treasure, -
He cares forever in full love
  Very tenderly for them.

The Almighty is he,
  The great Governor of heaven and earth;
No force can withstand him, -
  There was not, nor is his equal.

Where his smile is, every terror shall flee,
  And the whole turn into quietness;
He, it is undeniably true,
  Is the only Father of happiness.

Blessed are those, in a dear condition,
  Over whom God reigns:
A great desire I have, O heavenly Chief,
  To get to be one of them.

My world delightfully here I get, -
  In death I shall be safe, -
I shall in good, happy heaven,
  Forever a quiet resting-place.
tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~