Gwynn fyth ei fyd ni rodia'n ol Yr hil annuwiol ynfyd; Gann ffoi oddiwrthynt, â'i holl nerth, Eu cabledd serth ni sieryd; Er maglau'r drwg o'i amgylch ef, Caiff nerth o'r Nef a'i gweryd; Ceir fyth ei draed ar lwybrau'r gwir, Yn teithio tir y bywyd. Efe ni chais orthrymmu'r gwann, Na dwyn ei rann oddiarno; Nid un o'r beilchion y bydd ef; Nid neb yn dioddef dano; Mae'n gochel y drygioni certh Hyd eitha'r nerth sydd ynddo; Gann ddilyn deddf ei Dduw, 'n ddi feth, Ym mhob rhyw beth a wnelo. Gwynn fyth ei fyd! fe saif yn gawr, Pan ddelo'r awr echryslon; Am iawn a wnaeth, gann ddiodde'n hir, Fe dderbyn wir gyssuron; Gann Dduw'r cyfiawnder caiff, yn rôdd, Bob peth wrth fodd ei galon; Byw byth ger bronn ei Lywydd cu, Yn un o'r llu nefolion.Edward Williams (Iolo Morganwg) 1747-1826 Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch (Cyfrol II) 1827 [Mesur: MSD 8787D] |
Blessed is one who walks not according to The foolish ungodly race; While fleeing from them, with all his strength, Their harsh blasphemy he will not speak; Despite the snares of evil around him, He shall get strength from heaven and be delivered; His feet shall ever be found on the path of the truth, Travelling the land of life. He does not seek to oppress the weak, Or take his portion from him; He shall not be one of the proud; No-one suffers under him; He avoids the terrible wickedness To the utmost of the strength that is in him; While following the law of his God, unfailingly, In whatever kind of thing should comes. Blessed forever be he! he shall stand as a giant, When the terrible day comes; For the right he has done, while suffering long, He shall receive true comforts; From the God of righteousness he shall get, as a gift, Every thing that pleases his heart; To live forever before his dear Leader, As one of the host of heavenly ones.tr. 2024 Richard B Gillion |
|