Gad im' dreulio f'oriau, Arglwydd, Tra b'wyf yn yr anial fyd, Dan dy gysgod yn ddiogel - Dyma noddfa dawel, glyd: Rhedeg mwy, yn mhob rhyw drallod, Wnaf i gysgod Had y wraig; Hyd nes elo'r aflwydd heibio, Llechu wnaf yn "holltau'r Graig." Pan fo 'stormydd mawr yn codi, Ac yn curo f'enaid gwan, Yma bellach tro'f fy wyneb, Dyma'r unig dawel fan: Pan y toddo'r holl elfenau, Ac y berwo tònau'r aig, Pan fo anian yn ymddryllio, Canaf finau'n "holltau'r Graig."William Rees (Gwilym Hiraethog) 1802-83
Tonau [8787D]: gwelir: Rhan I - Pan oedd Sinai yn melltenu |
Let me spend my hours, Lord, While I live in the desert world, Under thy shadow safely - Here is my quiet, cosy refuge: Run henceforth, in every kind of trouble, I shall, to the Seed of the woman; Until the misfortune passes, Hide I shall in the "clefts of the Rock." Whenever the great storms arise, And buffet my weak soul, Here henceforth I shall turn my face, Here is my only quiet place: When all the elements melt, And the waves of the ocean boil, When nature breaks up, I will sing in the "clefts of the Rock."tr. 2012 Richard B Gillion |
|