dy Dduw yn ofer." Exod. XX.7.) Gorch'mynodd Duw un peth yn ddwys, Gan roddi arno ryfedd bwys; Sef na chymmerem, unrhyw awr, Yn ofer enw'n Crëwr mawr. Y cablwr atgas, ddyn di foes, A wna i hyn yn hollol groes, Tra'r gwaith heb bleser o un rhyw, Os nad yw'n bleser digio Duw! Yr hyn waharddodd lôn, ei Dad, Yr hwn sy'n rhoi bendithion rhad, A wna fe ganwaith yn y dydd, Gan watwar Duw a'r farn a fydd. Hudoliaeth bradus cnawdol flys, Neu'r chwant o ddwyn, er achub chwŷs, Ynt fwy naturiol, clywch, nâ'r bai Arswydus hwn, - gwae'r euog rai! Y cablwr ffîaidd, cas ei dôn, Sy'n eglur ddweyd yn wyneb Iôn, "Dy arch a brisiaf megis dim, A'th gais ni wnaf, er hawdded im'." Y Duw sy'n cynnal gwres dy fron, A haeddai ef yr hylliaith hon! Ymbwylla, ddyn, cyn delo'r awr Bydd rhaid wynebu'r cyfrif mawr!Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846 Gwinllan y Bardd 1831 [Mesur: MH 8888] |
to be taken in vain. Exod. 20:7) God commanded one thing earnestly, Putting upon it amazing weight; That is that we take not, any hour, In vain the name of our great Creator. 'Tis the detestable blasphemer, an immoral man, Who does this wholly contrary, While the work without pleasure of any kind, If it is not a pleasure to anger God! This the Lord, his Father, forbade, He who give free blessings, And he does a hundred times in the day, Scorning God and the day that shall be. The treacherous charm of carnal pleasure, Or the lust of taking, to save sweat, They are more natural, hear ye, than this Terrible fault, - woe to the guilty ones! The vile blasphemer, detestable his tone, That clearly says in the face of the Lord, "Thy command I value as nothing, And thy request I will not do, although so easy to me." The God who upholds the warmth of thy breast, Would he deserve this foul language? Consider, man, before the hour comes When you must face the great reckoning!tr. 2023 Richard B Gillion |
|