Gogoniant a ganwn, anrhegwn, yn rhwydd, I'r Brenin tragwyddol yn sirol ein swydd; Cynnaliwr ein bywyd a'n hiechyd ni yw, Ei enw clodforwn, addefwn E'n Dduw. Ei enw daionus, mae'n weddus yn wir I bawb ei ddyrchafu'n mhob teulu'n y tir; Ein Llywydd galluog, ein T'wysog a'n Tād, - Gogoniant ei enw fo'n loyw'n y wlad. Pob calon, pob tafod, pob aelod, pob un, Pob angel goruchel, yn dawel pob dyn, - Llu'r ddaear a'r nefoedd yn gyhoedd i gyd, Clodforant Gynnaliwr a Barnwr y byd. I Dduw b'o'r gogoniant am lwyddiant y wlad, A'r enwog wirionedd sy'n sylwedd llesād, A'r fath Lywodraethwr sy'n noddwr i ni; - Mae Brydain yn uchel (heb rhyfel) ei bri. Am ymborth a gwisgoedd boed cyhoedd ein cān, Trigfanau heddychol heb hollol wahān, Ac am ein coronog enneiniog yn awr, Sy'n bleidiol i'r anwyl efengyl mor fawr. [Mesur: 11.11.11.11] |
Glory let us sing, let us give, freely, To the eternal King cheerful our job; The upholder of our life and our health he is, His name let us praise, let us worship him as God. His good name, it is worthy truly For all to exalt him in every family in our land; Our mighty Governor, our Prince and our Father, - The glory of his name be shining in the country. Every heart, every tongue, every member, every one, Every exalted angel, quiet every man, - The host of the earth and the heavens publicly altogether, Shall praise the Upholder and Judge of the world. To God be the glory for the prosperity of the country, And the famous truth which is the substance of welfare, And such a Leader is a patron to us; - Britain is (witout war) of high renown. For food and clothing be our song public, Peaceful dwellers with no complete distinction, And for our crowned, anointed one now, Who is partial to the dear gospel so great. tr. 2015 Richard B Gillion |
|