Gogoniant byth i Frenin nef Am ddolef buddugoliaeth; Ar ben y bryn o dan y gwawd Gorffennwyd iachawdwriaeth. Arfaethau gras ar Galfari Drwy'r llenni dorrodd allan; A waed y cymod, digon yw I hawliau Duw Ei Hunan. Gorffenwyd dioddef a thristau, Y croesau a'r trywanu; A'r garwaf lid yn hedd a droes Yn ymyl croes yr Iesu. Fe grynod creigiau daear lawr Dan bwys Ei fawr ochenaid; A thalodd ar y mynydd llwm Ofynion trwm fy enaid. Pan fyddo'r byd yn cilio draw, A brenin braw'n dynesu; Mi gofiaf yn y garwaf hin Unigrwydd blin yr Iesu. Gorffennwyd ffordd o'r anial fyd I ddwyn ynghyd y teulu; Ond ni orffennir canu mwy Am farwol glwy' yr Iesu.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: MS 8787] |
Glory forever to the King of heaven For a shout of victory; On the top of the hill under the scorn Salvation was finished. The purposes of grace on Calvary Through the curtain broke out; And the blood of the covenant, sufficient it is For the claims of God Himself. Suffering and sadnesses were finished, The crosses and the piercing; And the roughest wrath turned to peace Beside the cross of Jesus. The rocks of earth below trembled Under the weight of His great groans; And he paid on the bare mountain The heavy demands of my soul. When the world retreats yonder, An the king of terror approaches; I shall ask in the roughest weather The grievous loneliness of Jesus. Finished was the way out of the desert world To bring the family together; But never to be finished is the singing evermore About the mortal wound of Jesus.tr. 2018 Richard B Gillion |
|