Gogoniant yr Arglwydd ddisgleiriodd

Gogoniant yr Arglwydd ddisgleiriodd,
  O'r nefoedd y llifodd i lawr;
A seren y Dwyrain a wenodd,
  A'r ddaear ryfeddodd yn fawr;
Pan welid y tecaf Blodeuyn,
  A aned o Forwyn
      Fam wiw;
Mewn preseb gorweddai y Plentyn
  Bendigaid, yn Ddyn ac yn Dduw.

O'i amgylch y gwyliai angylion,
  Mil myrdd o
      anwylion y nef,
Ar euraid gymylau digymar
  Y canent yn llafar eu llef:
"Gogoniant i'r Arglwydd Goruchaf,
  Y blaenaf a'r olaf Air yw,
I'r Mab a'r Glân Ysbryd
    rhown foliant,
  Gogoniant, addoliant i Dduw."

"Gogoniant," medd hoffus Seraffiaid,
  Mewn gwisgoedd gwiw gannaid i gyd;
"Gogoniant," medd côr y Cerwbiaid,
  O wele Ben-ceidwad y byd;
"Gogoniant," medd gwylaidd fugeiliaid,
  Bendigaid yw Duw yn y cnawd;
Mae'r Forwyn yn dal ar ei deulin
  Ein Harglwydd, ein Brenin, a'n Brawd.

Gorlenwid y nef â gorfoledd,
  Tangnefedd i'r ddaear a ddaeth,
A chariad ar loywon adenydd
  Pob calon o newydd a wnaeth;
A Meichiau pechdur dyledog
  Sydd faban gwynwridog yn awr,
Ond cyfyd yn Haul i'r ddaearen,
  Siriolach na seren y wawr.

O wele Iachawdwr a Cheidwad,
  Anfeidrol ei gariad gwir yw;
Arweinydd i fywyd tragwyddol,
  A nefol a Dwyfol Oen Duw;
Gogoniant i'r Arglwydd a roddwn,
  A chanwn, tra byddom ni fyw,
Â'n lleisiau, â'r delyn,
    â'r dectant,
  Ben-moliant addoliant i Dduw.
John Jones (Talhaiarn) 1810-69

Tonau [9898D]:
Crugybar (alaw Gymreig)
Elliot (J Ellis / R Rogers)

The glory of the Lord shone,
  From heaven it flowed down;
And the star of the East smiled,
  And the earth wondered greatly;
When the fairest Flower was seen,
  Which was born of the
      worthy Virgin Mother;
In a manger would lie the blessed
  Child, as Man and as God.

Around him angels were watching,
  A thousand myriad of
      the dear ones of heaven,
On the golden clouds unequalled
  They would sing with loud voices:
"Glory to the Most High Lord,
  The foremost and last Word he is,
To the Son and the Holy Spirit
    let us render praise,
  Glory, adoration to God."

"Glory," said the lovely Seraphim,
  In worthy, bleached garments;
"Glory," said the choir of the Chrerubim,
  O see the Chief-keeper of the world;
"Glory," said the humble shepherds,
  Blessed is God in the flesh;
The Virgin holds on her knees
  Our Lord, our King, and our Brother.

Heaven was filled with rejoicing,
  Peace to the earth has come,
And love on shining wings
  Has made every heart anew;
And the Surety of an indebted sinner
  Is a fair ruddy baby now,
But he rises as a Sun to the earth,
  More cheerful than the star of the dawn.

O see a Saviour and Keeper,
  Immeasurable his worthy love is;
A Leader to life eternal,
  And a heavenly and Divine Lamb of God;
Glory to the Lord we will give,
  And we will sing, while ever we be alive,
With our voices, and the harps,
    and the ten-stringed instrument,
  Chief-praise of worship to God.
tr. 2016,23 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~