Goruwch yr holl fynyddoedd sy Bydd mynydd tŷ Jehofah, Yn ddyrchafedig yn ddiau, Goruwch y bryniau ucha'. Pob cenedl, a phob llwyth, ac iaith, A brysur ymdaith ato, Yn fyrdd, yn fyrdd, â llawen floedd, Fel dyfroedd yn dylifo. [Fe ddaw'r cenedloedd o bob iaith, I brysur ymdaith ato, Yn filoedd myrdd, â llawen floedd, Fel dyfroedd yn dylifo.] A phobloedd lawer iawn a ânt, A hwy a ddwedant, Deuwch; I fynydd ac i dŷ'r Duw hwn, Esgynwn er dyddanwch. Efe a'n dysg ni yn ei ffyrdd, I wybod myrdd o bethau, Ac ni a rodiwn o un fryd, Oll ya ei hyfryd lwybrau.John Hughes 1775-1854
Tonau [MS 8787]: |
High above all the mountains there are Is the mountain of the house of Jehovah, Exalted doubtless, High above the highest hills. Every nation, and every tribe, and language, Shall hurry to prossess to it, As myriads, as myriads, with a joyful shout, Like waters pouring. [Nations of every language shall come, To hurry to prossess there, As a myriad thousands, with a joyful shout, Like waters pouring.] And very many peoples shall go, And they shall say, Come ye; To the mountain and to the house of this God, Let us ascend for enjoyment. He shall teach us in his ways, To know a myriad of things, And we shall walk of one intent, All in his delightful paths.tr. 2016 Richard B Gillion |
|