Gostega'r storom gref, Diflanned tarth yn lân, A gad i'm llygaid weled dydd Yn olau rhydd o'm blaen; Dwg fi i'r ardal glir Uwch diffaith dir ei ryw, Ac na ddoed cwmwl byth i'r fan Bo f'enaid gwan yn byw. Mewn trallod rho dy help, Ti wyddost 'd wyf ond gwan, A chynnal â'th anfeidrol fraich Tan lwythog faich fi i'r lan; Fel teithiwy'r tyle serth Yng nghadarn nerth y ne', Heb ofni gelyn ar un llaw Nes myned draw i dre. Cyflawnir gair fy Nuw, A doed hi fel y del, Cans holl amcanion nefoedd fry Bob sillaf sy dan gel; Ac ar ei air a'i nerth, A dwyfol werth ei waed, Mi af trwy'r holl elynion hy I mewn i dŷ fy Nhad.William Williams 1717-91 Tôn [MBD 6686D]: Gobaith (Thomas Price 1857-1925) gwelir: Fe enillodd Iesu'r dydd Mi wela(f) fyrdd dan sel |
Calm the strong storm, May the uproar vanish completely, And let my eyes see day In free light before me; Lead me to the clear region Above the land of a ruined kind, And may the cloud never come to the place Where my weak soul should live. In affliction give thy help, Thou knowest that I am but weak, And hold, with thy immeasurable arm Under a heavy burden, me up; As I travel the steep hill In the secure strength of heaven, Without fear of an enemy on any hand Until going yonder into town. To be fulfilled is the word of my God, And let it come as it will, Since all the purposes of heaven above, Every syllable, are under a seal; And on his word and his strength, And the divine worth of his blood, I will go through all the haughty enemies Into the house of my Father.tr. 2013 Richard B Gillion |
|