Gwae a roddo'i ben i lawr

1,2,3,4,5,6,7,9,10;  1,2,3,4,6,7,8,(11).
(Y pedwar peth diwethaf)
    (1)
Gwae a roddo'i ben i lawr
  I gysgu awr mewn pechod;
Gwell oedd fod mewn llong ar ddŵr
  A honno'n siŵr heb waelod.

    (2)
Y sawl yn rhydd a fynnai fod
  Oddi wrth y pechod mwyaf,
Meddylied fod yn drwm y dreth
  Y pedwar peth diwethaf.

    (3)
Angau a bair im' nos a dydd
  Fod mewn cystudd calon;
Am na wn pa awr y daw
  I yrru braw mewn dynion.

    (4)
'R ail yw'r Farn mor gadarn gaeth
  A hon sydd waeth nag ange;
Pan ddychryno nef a llawr
  A'r Arglwydd mawr yn eiste'.

    (5)
Am bechodau, beth sydd waeth,
  Yn siwr bydd caeth rhoi cyfri;
Pan fo'r creigiau'n curo 'nghyd,
  A'r byd i gyd yn llosgi.

    (6)
Uffern drom yw'r trydydd peth
  Lle mae alaeth wylo,
Lle mae'r poenau'n parhau byth, -
  Fel dyna nyth amrosgo!

    (7)
Y bedwaredd, gwlad y Tad,
  Ni cheir yn rhad mo'i rhodio,
Ond a ddêl i'r wybr gaeth
  I'r hon yr aeth yr Athro.

    (8)
O grud Iesu hyd ei groes
  Nid oedd ei oes ond penyd, -
Iawn i ninnau fynd ar ei ôl
  I gael tragwddol fywyd.

    (9)
Crist ni dderbyn neb i'w wledd,
  I gaffael hedd tragwyddol,
Ond a lynodd wrth ei Groes,
  I ddysgu'r loes anianol.

   (10)
Gwnawn ein penyd tra bôm fyw,
  Ni a'i cawn yn Dduw trugarog,
Ef a'n geilw ni brynhawn,
  Ac yno cawn ein cyflog.

   (11)
O gofynnir pwy ai cânt,
  Dyn dan warant Iesu,
Yn dymuno ar Dduw bob dydd
  Ar ddwyn i'r Ffydd y Cymry.
Oddi wrth y :: O haint y
Meddylied :: Cofied
Angau a bair :: Angau bair
Fod mewn :: Och, fod mewn
'R ail :: Yr ail
Lle mae alaeth wylo :: Y lle mae aleth wylo
Fel dyna :: Wel dyma
Y bedwaredd :: Y pedwerydd
para :: parhau
i'r wybr gaeth :: i'r llwybyr caeth
I'r hon yr aeth :: I'r hwn yr aeth

Richard White 1537-84

Tonau [7777]:
    Heinlein (Nürnbergisches Gesangbuch 1676)
    Y Pedwar Peth Diwethaf (David Evans 1874-1948)

(The four last things)
    (1)
Woe to one who puts his head down
  To sleep an hour in sin;
It were better to be in a ship on water
  And that certainly without a bottom.

    (2)
Those freely who would insist on being
  Away from the greatest sin,
Let them think that heavy is the tax
  Of the four last things.

    (3)
Death will cause me night and day
  To be in anguish of heart;
For I do not know it will come
  To drive terror in men.

    (4)
The second is the Judgment so firmly strict
  And this is worse than death;
When heaven and earth will be terrified
  And the great Lord takes his seat.

    (5)
For sins, what is worse,
  Will surely be strictly to give an account;
When the rocks are beating together,
  And all the world burning.

    (6)
Heavy Hell is the third thing
  Where there is lamentable weeping,
Where there are pains continuing forever, -
  Like that's an awkward nest!

    (7)
The fourth, the Father's land,
  Walking it freely is not to be got,
But by one who comes to the strait path
  To this the Teacher came.

    (8)
From the crib of Jesus to his cross
  His life was nothing but atonement, -
Satisfaction for us who go after him
  To get eternal life.

    (9)
Christ will not receive anyone to his feast,
  To get eternal peace,
Who does not stick to his Cross,
  To learn the natural anguish.

   (10)
Let us make our atonement while we live,
  We may get it in merciful God,
He will keep us until evening,
  And then we may get our reward.

   (11)
Oh it is to be asked who will get it,
  A man under the warrant of Jesus,
Wishing to God every day
  For the bringing of the Welsh to the Faith.
Away from the :: From the infection of the
Let them think :: Let them remember
::
To be in :: Oh, to be in
::
::
Like that's an :: Well here's an
::
::
::
::

tr. 2014 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Interests ~ Home ~