Gwedi edrych, gwedi disgwyl Trwy yr oesoedd bore cudd, Am ddyfodiad y Gwaredwr, Gwrthych mawr proffwydol ffydd, Cafwyd ef ar diroedd Canan Yng nghyflawnder gras y nef; Gobaith cyrrau maith y ddaear A'i thrigolion ydoedd ef. Cenwch, gorau nef y nefoedd, Cenwch, dadau'r oesoedd draw, Cenwch, chwi broffwydi sanctaidd, Cenwch, seintiau, ar bob llaw; Y mae'r arfaeth wedi esgor, Mae'r Messïa'n gwisgo cnawd, Mae Etifedd yr addewid Wedi dyfod inni'n Frawd. Aeth y gaeaf garw heibio, Ciliodd holl gysgodau'r hwyr, Peidiodd, bellach, bob amheuaeth, Aeth pob dychryn heibio'n llwyr; Y mae'r Bachgen wedi'i eni, Duw a gymerth natur dyn; Haedda gael gwrogaeth calon Y ddynoliaeth yn gytûn. - - - - - Gwedi edrych, gwedi disgwyl, Trwy yr oesoedd fore daw, Am ddyfodiad y Pryniawdwr, Ydoedd bron â bod gerllaw; Cafwyd Ef ar diroedd Canaan, Yng nghyflawnder gras y nef; Gobaith cyrau pell y ddaiar A'i thrigolion ydoedd Ef. Goleu seren fawr a welwyd Draw yn y dwyreiniol fyd, Hon ymlwybrai trwy'r ffurfafen, Gan ymdynu 'mlaen o hyd; Safodd fry uwch caerau Bethle'm, Fel rhyw gyfeiriedig nod At y Person mwya'i urddas Aned yn y byd erioed. Weithian mae yn seren oleu Yn ffurfafen Eglwys Dduw; Mae'n oleuni i'r Cenedloedd, Mae'n oleuni pob dyn byw; Gwelir hi yn amlyg, amlyg, Nid gan gnawd, and llygaid ffydd; Hi yw seren oleu Jacob, Hi yw'r seren fore ddydd. Ein Hiachawdwr ydyw'r seren, Mae'n goleuo'r dydd a'r nos; Mae yn ymlid y cymylau Ffwrdd o lwybrau plant y groes; Ac ar lan yr afon dònog, Gwlad cysgodau du yr hwyr, Y mae goleu'r seren danbaid Yn eu hymlid oll yn llwyr.David Owen (Brutus) 1795-1866
Tonau [8787D]: |
After looking, after waiting Through the ages of a hidden morn, For the coming of the Deliverer, The great object of prophetic faith, He was got on the lands of Canaan In the fullness of the grace of heaven; Hope of the vast corners of the earth And its inhabitants was he. Sing ye, the best of the heaven of heavens, Sing, ye fathers of the distant ages, Sing, ye holy prophets, Sing, ye saints, on every hand; The great purpose has been born, The Messiah is wearing flesh, The Heir of the promise Had come to us as a Brother. The rough winter passed, All the shadows of the evening retreated, Ceased, henceforth, all doubting, Every horror passed completely; The Son has been born, God takes the nature of man; Deserves to get the allegiance of the heart Of humanity in agreement. - - - - - After looking, after waiting Through the ages of a coming morn, For the coming of the Redeemer, Who was almost being at hand; He was got on the lands of Canaan, In the fullness of the grace of heaven; Hope of the distant corners of the earth And its inhabitants was He. The light of the great star was seen Yonder in the eastern world, This made its way through the firmament, While drawing onward always; It stood up above the fields of Bethlehem, Like some directing sign Pointing to the Person of greatest dignity Born in the world ever. Henceforth the star of light is In the firmament of the Church of God; It is giving light to the Gentiles, It is giving light to every living man; It is to be seen obviously, obviously, Not by flesh, but the eyes of faith; It is the star of the light of Jacob, It is the star of the morn of day. Our Saviour is the star, He is lighting the day and the night; He is chasing the clouds Away from the paths of the children of the cross; And on the bank of the billowing river, The land of the black shadows of the evening, The light of the fiery star is Chasing them all completely.tr. 2016 Richard B Gillion |
|