Gwel Crist/Grist yn dyfod ar y cwmwl draw

(Ail ddyfodiad Crist)
Gwel Grist yn dyfod ar y cwmwl draw,
A phob awdurdod yn Ei nerthol law!
  Cerubiaid fyrdd, yn eu cerbydau tān,
  Yn gyru'n glau o gylch eu Harglwydd glān!
Y ddaear gryn, y beddau ymagorant;
Cān udgorn Duw, a'r meirw a gyfodant!
Benjamin Francis 1734-99
Aleluia 1774

Tonau [10.10.10.10.11.11]:
Adgyfodiad (D Emlyn Evans 1843-1913)
Glan Dwyryd (Edward J Stephen 1822-85)
  Glynderwen (Henry Smart 1813-79)
Yr Hen 50 (The Whole Book of Psalmes 1562)

(The Second Coming of Christ)
See Christ coming on yonder cloud,
And every authority in His strong hand!
  A myriad cherubim, in their chariots of fire,
  Driving swiftly around their holy Lord!
The earth shall shake, the graves shall open;
God trumpet shall sound, and the dead shall rise!
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~