Gwêl y pechadur gwaethaf gaed Yn meiddio nesu at dy draed, Heb ddim o'i du ond rhin dy waed: O! Iesu, derbyn, derbyn fi. Dôi publicanod, dan eu clwy', A phechaduriaid fwy na mwy, I'th geisio gynt, derbyniaist hwy: O! Iesu, derbyn, derbyn fi. Myfi wyf euog, llesg a gwael, Yn grwydryn llwm heb ddim i'w gael; 'R wyt ti'n gyfoethog ac yn hael: O! Iesu, derbyn, derbyn fi. Ni cheisiaf mwy bleserau'r llawr, Ond rhof fy hun i ti yn awr, A phwysaf ar yr aberth mawr: O! Iesu, derbyn, derbyn fi.John Hughes (Glanystwyth) 1842-1902
Tonau [8886/8888]: |
See the worst sinner there is Daring to approach the feet of Jesus, With nothing from his side but the merit of his blood: O Jesus, receive, receive thou me! Publicans would come, under their disease, And sinners most of all, To seek thee formerly, thou didst receive them: O Jesus, receive, receive thou me! As for me, I am guilty, weak and poor, Wandering naked with nothing to get; Thou art rich and generous: O Jesus, receive, receive thou me! I will not seek the pleasures of earth any more, But give myself to thee now, And lean on the great sacrifice: O Jesus, receive, receive thou me!tr. 2013 Richard B Gillion |
|