Gwelir Iesu'n ogoneddus, Yn ei ail Ddyfodiad glân; Gwelir miloedd iddo'n plygu, Na phlygasant iddo o'r blaen; Gwelir hefyd Fyrdd yn dechrau llawenhau. Gwelir cystudd, gwelir galar, Yn ffoi ymaith gyda brys: Gwelir gwir orfoledd eilwaith, Wedi hyn yn llenwi'r llys: Yn y gwynfyd Bydd llawenydd pur a hedd. Melys fydd y fwyn gyfeillach, Yn y pur ogoniant maith; Melys fydd cydganu'r anthem, O'r un ysbryd a'r un iaith; Melys meddwl Na fydd rhaid ymado mwy.
Tonau [878747]: |
Jesus is to be seen glorious, In his holy second Coming; Thousands are to be seen bowing to him, Who had not bowed to him before; To be seen also is A myriad beginning to rejoice. Tribulation is to be seen, mourning is to be seen, Fleeing away with hurry: True jubilation is to be seen anew, After this filling the court: In the blessedness There shall be pure joy and peace. Sweet shall be the tender fellowship, In the pure, extensive glory; Sweet shall be singing together the anthem, From the one spirit and the one language; Sweet to think There shall be no need to depart any more. tr. 2014 Richard B Gillion |
|