Gwell nag aur a gwell nag arian

Gwell nag aur, a gwell nag arian,
  Yw Dy air, O Dduw, i mi;
Ymhyfrydu byddo'm henaid
  Beunydd yn Dy gyfraith Di.

Rho oleuni, fel y gwelwyf
  Bethau rhyfedd D'air o hyd:
Plyg f'ewyllys i'w ddylanwad,
  Ato sugna'm serch a'm bryd.
William Williams 1717-91

Tôn [8787]: Gwell nag Aur (1897 Ioan Williams)

gwelir:
    Diolch am ddatguddiad dwyfol
    Dyma Feibil annwyl Iesu

Better than gold, and better than silver,
  Is Thy word, O God, to me;
May my soul delight
  Daily in Thy law.

Give light, that I may see
  The wonderful things of thy word always:
Bend my will to its influence,
  To it draw my affection and my mind.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~