Gwir geni Crist Tywysog hedd

(Genedigaeth Iesu Grist, a'i Swyddau.)
Gwir geni Crist, Tywysog hedd,
  Pur isel wedd, mewn preseb;
Y Tad o'r nef wrth dderbyn Iawn,
  Cyhoeddodd lawn foddlondeb.

Pan gafodd Crist yn ôl y Gair,
  O'r anwyl Fair ei eni,
Angylion nef canasant fawl;
  Rhyw garawl yn rhagori.

Eneinniwyd Crist,
    gwir fabmaeth Mair,
  I lenwi tair o swyddau:
Offeiriad, Prophwyd, teg ei wawr,
  Wir Frenin mawr ar fronau!

Amlygwyd ef yn wir Fab Duw
  Wrth wneuthur amryw wyrthiau;
Ond adgyfodiad Iesu gwyn
  Sy'n profi hyn yn ddiau.

Esgynodd ef, yn ol ei daith,
  I wlad y perffaith fywyd;
Mae'n eiriol frŷ; - oddiyno'n llawn
  Disgynodd dawn ei Ysbryd.
efel. David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822
Corph y Gaingc 1810
Caniadau Duwiol i Ieuenctid Cymru

[Mesur: MS 8787]

(The Birth of Christ, and his Offices.)
Truly Christ was born, the Prince of peace,
  Of a pure, lowly appearance, in a manger;
The Father from heaven on receiving a Ransom,
  Published full satisfaction.

When Christ got, according to the Word,
  From the blessed Virgin born,
The angels of heaven sang praise;
  Some carol excellently.

Christ was anointed,
    the true foster-son of Mary,
  To fulfill three offices:
Priest, Prophet, fair his dawn,
  True great King on breasts!

He was manifest as the true Son of God
  Through performing various miracles;
But it is the resurrection of blessed Jesus
  That is proving this doubtlessly.

He ascended, on his return journey,
  To the land of perfect life;
He is interceding above; - from there fully
  Descended the gift of his Spirit.

tr. 2015 Richard B Gillion
 

























Isaac Watts 1674-1748
The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~