Gwlad ddïeithr oddi cartref, Ardal bell o dŷ fy Nuw, Yn mhlith lluoedd o elynion Chwerw, atgas, 'r wyf yn byw; Pawb yn ceisio Cael fy mhen o dàn eu traed. Minnau weithiau'n digaloni, Minnau weithiau'n ymgryfhau, Weithiau'n ofni croesau trymion, Weithiau'n ofni grym fy mai; Bydd dy Hunan Imi'n gyfaill, O! fy Nuw! Safed haul uwch ben Gibeon, Safed lleuad yn y ne', Safed sêr, a'r holl blanedau, 'N llonydd heddyw yn eu lle, Cyn y collo F'enaid gwàn baradwys well.William Williams 1717-91
Tonau [878747]: |
A strange land away from home, A region far from my God's house, Amongst hosts of bitter, Loathsome enemies I am living; Everyone trying To get my head under their feet. I sometimes losing heart, I sometimes growing strong, Sometimes fearing heavy crosses, Sometimes fearing the strength of my fault; Be thou Thyself To me a friend, O my God! Let the sun stand above Gibeon, Let the moon stand in heaven, Let stars stand, and all the planets, Still today in their place, Before my weak Soul lose a better paradise.tr. 2018 Richard B Gillion |
|