Gwyn fyd y duwiol was

("Gwyn ei fyd.")
Gwyn fyd y duwiol was
Sy'n rhodio llwybrau gras
  Drwy'r daith i gyd;
Yr hwn, mewn sanctaidd fraw,
Y sydd yncilio draw
Rhag llwybrau'r aswy law -
  O! gwyn ei fyd.

Un nad yw swynion fyrdd
Y pechadurus ffyrdd
  Yn dwyn ei fryd;
Ond ddydd a nos sy'n byw
Iwrando cyfraith Duw
Yn torri ar ei glyw -
  O! gwyn ei fyd.

Pan sango ef yn syn
Ar dywyll lwybrau'r glyn,
  Caiff deimlo'n glyd:
Uwch tonnau'r afon gref
Bydd engyl glān y nef
Yn ei gyfarfod ef -
  O! gwyn ei fyd.

O! Arglwydd, rho i mi
Dy lān oleuni Di,
  A'th gyngor drud;
A minnau, os caf hyn,
A groesaf drwy y glyn,
A dringaf Seion fryn -
  O! gwyn fy myd.
Ben Davies 1864-1937

Tonau [664.6664]:
Bethel (Ieuan Gwyllt 1822-77)
Dinbych / Dyffryn Clwyd (alaw Gymreig)
  Lyndon (Dd Llewelyn Jones, Abercynon.)
Llanddowror (alaw Gymreig)
Olivet (Lowell Mason 1792-1872)

("Blessed is he.")
Blessed is the godly servant
Who is walking the paths of grace
  Throughout all the journey;
He, in holy fear,
Which is retreating yonder
From the paths of the left hand -
  Oh, blessed is he!

One who does not let a myriad charms
Of the sinful ways
  Take his attention;
But day and night is living
To hear the law of God
Breaking on his hearing -
  Oh, blessed is he!

When he treads suddenly
On the dark paths of the vale,
  He will get to feel secure:
Above the waves of the strong river
The holy angels of heaven will be
Meeting him -
  Oh, blessed is he!

O Lord, give to me
Thy holy light,
  And thy precious counsel;
And I too, if I get this,
Shall cross through the vale,
And climb Zion hill -
  Oh, blessed am I!
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~