Haeddasom wel'd ein ffrwythydd Yn braenu ar ein bronydd, Yr ŷd a'r gweiriau gore i gyd Yn dail ar hyd ein dolydd; Gan wlaw ac eira i'w guro, A chaddug i'w orchuddio, Neu gwedi'i grino gyda gwres, Heb hanes dim o hono. Yn ngwyneb annheilyngdod, A beichiau mawr o bechod, Roed ffrwth y ddaear ger ein bron Y flwyddyn hon yn hynod; Heb roddi gwlaw i'w lygru, Na'r hin yn fwll i'w fallu; Addfedu'n llafur ei ein lles, A gwres neu dês i'w dasu. 'R ol gwneyd i'r ddaear gnydio, Dyffrynoedd, ffrithoedd, ffrwytho, Rhoi hin yn dêg am lawer dydd, Drwy'r gwledydd, adre' i'w gludo: Mae'n bryd i ninnau bellach, 'R ol cael ein bara'n bur-iach Wneyd defnydd da o fara i fyw, Dan garu Duw'n gywirach.Edward Jones 1761-1836 Cofiant Edward Jones 1839 [Mesur: 7787D] |
We had deserved to see our fruits Rotting on our slopes, The corn and all the best grasses As leaves along our meadows; By rain and snow beaten, With mist covering them, Or having been shrivelled by heat, Without any history of them. In the face of unworthiness, And great burdens of sin, The fruit of the earth was before us This year remarkably; Without giving rain to corrupt it, Nor the weather sultry to putrefy it; Maturing our labour for our benefit, With warmth or heat to stack it. After making the earth produce crops, Valleys, moors, fruits, Giving weather fine for many days, Through the lands, home to convey it: It is time for us henceforth, After getting our pure, healthy bread To make use of bread for living, While loving God more truly.tr. 2016 Richard B Gillion |
|