Halelwia! Halelwia! Seinier mawl i'r uchel Dduw; Ef yw Brenin y brenhinoedd, Arglwydd yr arglwyddi yw: Pwysa eangderau'r cread Byth ar ei ewyllys gref; Ein gorffwysfa yw ei gariad: Halelwia! Molwn ef. Halelwia! Halelwia! Gwylio mae bob peth a wnaed; Cerdd mewn nerth drwy'r uchelderau A'r cymylau'n llwch ei draed: Ynddo mae preswylfa'r oesau, Dechrau a diwedd popeth yw; Newydd beunydd yw ei ddoniau: Halelwia! Molwn Dduw. Halelwia! Halelwia! Yn ei Fab daeth atom ni; Cyfuwch a'i orseddfainc ddisglair Yw y groes ar Galfari: Ef yw sicrwydd ei arfaethau, Ef mewn pryd a'u dwg i ben; Tragwyddoldeb sydd yn olau: Halelwia byth! Amen.Howell Elvet Lewis [Elfed] 1860-1953 Tôn [8787D]: Harford (Alun Davies 1924-88) |
Alleluia! Alleluia! Let praise be sounded to the high God; He is the King of kings, The Lord of lords he is: The vastness of the creation leans Forever upon his strong will; Our resting-place is his love: Alleluia! Let us praise him. Alleluia! Alleluia! He is watching everything that was made; Walking in strength through the heights With the clouds as the dust of his feet: In him the ages are residing, The beginning and end of everything he is; New daily are his gifts: Alleluia! Let us praise God. Alleluia! Alleluia! In his Son he came to us; As high as his radiant throne Is the cross on Calvary: His is the certainty of his purposes, He in time shall bring them to pass; Eternity is light: Alleluia forever! Amen.tr. 2024 Richard B Gillion |
|