Hardd yw'r wawr ar fynydd

Hardd yw'r wawr ar fynydd,
  Llafar nefol yw;
Ffrydiau yr afonydd
  Suant, "Da yw Duw."
Haul y nen lewyrcha,
  Anian oll wna'n fyw:
Dyffryn gwyrdd adseinia -
  "Wele, da yw Duw!"

  [Hardd yw'r wawr ar fynydd,
     Llafar nefol yw;
   Ffrydiau yr afonydd
     Suant, "Da yw Duw."]

Coed y maes ddatganant
  Anthem yn ein clyw;
Côr y wig gydbyngciant
  Oll, mai "da yw Duw."
Deffro, ddyn sy'n pechu,
  A thra byddi byw,
Dysg i'th enaid ganu -
  "Da, O, da yw Duw."
T Pierce 1801-57

Tonau:
  [6565D]: Da o hyd yw Duw (A B Everest)
  [6565T]: Da yw Duw (Joseph Parry 1841-1903)

Beautiful is the dawn on a mountain,
  Heavenly speech it is;
The streams of the rivers
  Lull, "God is good."
The sun of heaven is shining,
  All nature it makes alive:
The green valley resounds -
  "Look, God is good!"

  [Beautiful is the dawn on a mountain,
     Heavenly speech it is;
   The streams of the rivers
     Lull, "God is good."]

The trees of the field set forth
  An anthem in our hearing;
The choir of the wood all chant
  Together, that "God is good."
Awake, man who sins,
  And while thou dost live,
Teach thy soul to sing -
  "Good, oh, good is God."
tr. 2011 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~