Hawddamor iti sanctaidd ddydd

(Sul)
Hawddamor iti sanctaidd ddydd
Y daeth o'r bedd yr Iesu'n rhydd;
  Ar hwn agorwyd pyrth y nef
  Trwy nerth ei oruchafiaeth Ef.

O! boed fy meddwl fel dy ddydd
Yn sanctaidd oll, o'r byd yn rhydd;
  Fel gallwyf dy glodfori Di,
  Fy Nuw, fy Nghraig, a'm Harglwydd Ri.

Y boen, y groes oddefodd Ef
Yw sail fy iachawdwriaeth gref;
  Am hyny seiniaf iddo glod,
  Tra Sabbath im' o dan y rhod.

O boed i holl Sabbathau'r llawr
Gymhwyso f'enaid bob rhyw awr
  I dreulio yn ei wyddfod Ef
  Dragwyddol Sabbath yn y nef.
Charles Lewis 1816-89, Dowlais.

Tôn [MH 8888]: Crofton (<1962)

(Sunday)
Hail to thee holy day
When Jesus came free from the grave;
  On this the portals of heaven were opened
  Through the strength of His conquest.

Oh, may my thought be like thy day
All holy, free from the world;
  Thus may I praise Thee,
  My God, My Rock and my Sovereign Lord.

The pain, the cross he suffered
Are the basis of my strong salvation;
  Therefore I shall sound unto him acclaim,
  While I have a Sabbath under the sky.

O may all the Sabbaths of earth below
Qualify my soul every hour
  To spend in his presence
  An eternal Sabbath in heaven.
tr. 2013 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~