Heb rad drugaredd Duw o'm plaid Nis gallai'm henaid fyw; Anobaith du a lyncai'n llwyr Fy nghysur o bob rhyw. Trwy fawr ddaioni Duw a'i ras Fy ysbryd llòni mae, Yr hwn a'm cadwodd hyd yn awr Sy'n hoffi trugarhau. 'Rwy'n teimlo rhwymau i ganu clod Dros byth i'm Prynwr glân, Trwy angeu'r groes agorwyd drws Trugaredd o fy mla'n. Mae drws trugaredd heb ei gau, A gobaith heb ei ladd; Daw pob credadyn llesg i'r làn I'r nef o radd i radd. Rho im' drugaredd ar fy nhaith, I lòni'm poen a'm braw; Ac am drugaredd canaf byth Yn nhragwyddoldeb draw.Casgliad Joseph Harris 1845
Tonau [MC 8686]: |
Without the free mercy of God on my side My soul would not be able to live; Black despair would swallow completely My comfort of every kind. Through the great goodness of God and his grace My spirit is being cheered, He who has kept me until now Is delighting to show mercy. I am feeling bound to sing praise Forever to my pure Redeemer, Through the death of the cross was opened a door Of mercy before me. The door of mercy is still not closed, And hope still not killed; May every feeble creature come up To heaven from degree to degree. Give me mercy on my journey, To cheer my pain and my terror; And about mercy I will sing forever In eternity yonder.tr. 2016 Richard B Gillion |
|