Henffych iti faban sanctaidd

Henffych iti, faban sanctaidd,
  Plygu'n wylaidd iti wnawn
Gan gydnabod yn ddifrifol
  Werth dy ddwyfol ras a'th ddawn;
O ymuned daearolion
  I dy ffyddlon barchu byth,
Gyda lluoedd nef y nefoedd,
  Yn dy lysoedd, Iôn di-lyth.

Henffych iti, faban serchog,
  Da, eneiniog, ein Duw ni,
Rhaid in ganu iti'n uchel
  Ac, ein Duw, dy arddel di:
Ein Gwaredwr a'n Hiachawdwr
  Wyt, a'n dyddiwr gyda'th Dad,
Ac am hynny taenwn beunydd
  Iti glodydd drwy ein gwlad.

Wele seren deg yn arwain
  Doethion dwyrain at dy draed,
Aur a thus a myrr aroglus,
  Rhoddion costus iti gaed;
Tywysogion a ymgrymant
  Ac addolant di, O Dduw,
At y Seilo pobloedd ddeuant,
  Gwelant dy ogoniant gwiw.

Bendigedig yn dragywydd,
  Ti yw'n Llywydd a'n Duw llad;
Iti'n ufudd yr ymgrymwn
  Ac y rhoddwn bob mawrhad;
Ti a wnaethost ryfeddodau
  Eang barthau'r nef uwch ben,
Ac ni ganwn it ogoniant,
  Clod a moliant byth, Amen.
Robert (Mona) Williamson (Bardd Du Môn) 1807-52

Tôn [8787D]:
Cân y bachgen main (alaw Gymreig)

Hail to thee, holy baby,
  Bend humbly to thee we do
Recognising seriously
  The worth of thy divine grace and thy gift;
O may earthlings unite
  To revere thee forever,
With the hosts of the heaven of heavens,
  In thy courts, unfailing Lord.

Hail to thee, affectionate baby,
  Good, anointed, our God,
We must sing to thee loudly
  And, our God, profess thee:
Our Deliverer and our Saviour
  Thou art, and our comforter with thy Father,
And therefore we spread daily
  To thee praises throughout our land.

See a fair star leading
  Wise men of the east to thy feet,
Gold and frankincense and aromatic myrrh,
  Costly gifts to thee were had;
Princes shall bow
  And they will worship thee, O God,
To the Shiloh peoples will come,
  They shall see thy worthy glory.

Blessed in eternity,
  Thou art our Governor and our God of blessing;
To thee obediently we will bow
  And give all majesty;
Thou hast made the wonders
  Of the wide regions of heaven overhead,
And we will sing to thee glory,
  Praise and acclaim forever, Amen.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~