Holl deyrnasoedd byd yn gyfan

(Brenhiniaeth Crist)
Holl deyrnasoedd byd yn gyfan
  Sydd yn eiddo'n Harglwydd ni,
Ei lywodraeth sydd yn ëang,
  Mae Ei enw uwch pob bri;
    Boed yn amlwg
  Ei ogoniant Ef a'i râs.

Iesu, estyn Dy deyrnwialen
  Dros derfynau eitha'r byd;
Dyrcha'th faner at y bobloedd,
  Atat tỳn y rhai'n i gyd;
    Gan bob llygad
  Gweler iachawdwriaeth Duw.
Peter Jones (Pedr Fardd) 1775-1845

Tonau [878747]:
Bridport (John A Lloyd 1815-84)
Islwyn (David Lewis 1828-1908)
Lewes (John Randall 1717-99)
Llandinam (James Turle 1802-82)
Sicily (alaw Italaidd)

gwelir:
  Boed i Grist yn etifeddiaeth
  Iesu estyn dy deyrn-wialen
  Rho'ed i Grist yn etifeddiaeth

(The Kingship of Christ)
All the world's kingdoms as a whole
  Belong to our Lord,
His government is broad,
  His name is above every honour;
    May his glory
  And his grace be evident.

Jesus, extend thy sceptre
  Over the utmost ends of the world;
Raise thy banner over the peoples,
  To thyself draw them all;
    That every eye
  See the salvation of God.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~