Hyfryd eiriau'r Iesu, Bywyd ynddynt sydd, Digon byth i'n harwain I dragwyddol ddydd: Maent o hyd yn newydd, Maent yn llawn o'r nef; Sicrach na'r mynyddoedd Yw ei eiriau ef. Newid mae gwybodaeth A dysgeidiaeth dyn; Aros mae Efengyl Iesu byth yr un; Athro ac Arweinydd Yw efe 'mhob oes; A thra pery'r ddaear Pery golau'r groes. Wrth in wrando'r Iesu, Haws adnabod Duw; Ac wrth gredu ynddo Mae'n felysach byw. Mae ei wenau tirion Yn goleuo'r bedd; Ac yn ei wirionedd Mae tragwyddol hedd. Haws adnabod Duw :: Hawddach nabod Duw
Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953
Tonau [6565D]: |
The delightful words of Jesus, Life is in them, Sufficient forever to guide us To eternal day: They are always new, They are full of heaven; Surer than the mountains Are his words. Changing is the knowledge And teaching of man; The gospel of Jesus Stays forever the same; Teacher and Guide Is he in every age; And while the earth endures The light of the cross will endure. As we listen to Jesus, It is easier to recognize God; And by believing in him It is sweeter to live. His tender smiles are Lighting up the grave; And in his truth There is eternal peace. easier to recognize :: easier to know tr. 2024 Richard B Gillion |
|